Beth yw Cronfa Cyfle i Bawb?
Mae Cronfa Cyfle i Bawb yr Urdd yn rhoi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru i fwynhau gwyliau haf, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol.
Gall rhieni, warchodwr neu athrawon wneud cais i’r gronfa i dalu am wyliau yn un o wersylloedd haf yr Urdd i blentyn neu berson ifanc sy’n dod o gefndir incwm isel.
Gellir gwneud y broses yma trwy ysgol eich plentyn neu yn uniongyrchol drwy’r rhieni / gwarcheidwaid.
Pwy sy’n gymwys?
- plentyn/person ifanc rhwng 8 ac 18 oed
- plentyn/person ifanc sy’n siarad Cymraeg yn rhugl neu’n dysgu
- plentyn/person ifanc y mae ei rieni/gwarcheidwaid yn gymwys am brydau ysgol am ddim NEU gredydau treth gwaith
- plentyn/person ifanc yr ydych chi’n teimlo y byddai’n elwa o Gwrs Haf yn un o Ganolfannau’r Urdd
- does dim rhaid i'r plentyn/person ifanc fod yn aelod o'r Urdd i wneud cais.
Beth yw’r cynnig?
Bydd y gronfa yn talu am bris cyfan y cwrs, ac hefyd trafnidiaeth i’r Gwersylloedd. Gweld gwersylloedd haf 2025.
Beth sy’n digwydd nesa?
Ar ol y dyddiad cau (6 Mehefin) bydd y panel yn cwrdd ac yn asesu’r holl geisiadau am y tro cyntaf ac yn dyrannu llefydd. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu gan bwyllgor llywio. Byddwch yn cael gwybod erbyn diwedd mis Mehefin 2025 os yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus.
Mae nifer y lleoedd fydd ar gael yn dibynnu ar lefel y cyllid a dderbynnir, felly bydd pob cais yn cael ei asesu a dyrennir y lleoedd i’r rhai hynny sy’n cwrdd orau â’r meini prawf.