Cymynroddion

I nifer ohonom, roedd ymwneud â gweithgareddau’r Urdd yn rhan annatod o’n plentyndod. 
Mae gadael rhodd i’r mudiad yn eich ewyllys yn fodd o helpu i sicrhau y bydd gan genedlaethau’r dyfodol cyfle i fwynhau’r un profiadau.

Penderfyniad personol ydy gadael rhodd. Ar ôl gofalu am anghenion eu teuluoedd, gall nifer o resymau gymhell unigolyn i adael rhodd i elusen.   Rhai cyffredin ydy:

  • I goffau eich hun, neu’r gwerthoedd sy’n bwysig ichi
  • I goffau rhywun oedd yn annwyl  i chi
  • Ymateb i angen a welwch yn eich cymuned
  • I sicrhau sylfaen gref i’r mudiad tua’r dyfodol, neu i ddangos eich gwerthfawrogiad o waith y mudiad.

Ar gyfer beth gaiff cymynroddion eu defnyddio yn yr Urdd?

Dros y blynyddoedd, y mae cymynroddion a rhoddion wedi ein galluogi i wneud gwelliannau a buddsoddiadau allweddol – megis moderneiddio cyfleusterau yn y gwersylloedd gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn atyniadol i ymwelwyr.

Mae rhoddion o ffynonellau allanol hefyd yn ffordd bwysig o gynorthwyo’r Urdd i gadw’r costau mor isel  â phosibl i’w haelodau.

Yn y gorffennol, cafodd cymynroddion eu defnyddio i:

  • Wella adnoddau’r Urdd e.e.  Moderneiddio’r gwersylloedd, e.e. Bloc llety newydd yn Llangrannog (2013) a Glan-llyn (2014).
  • I wella ar y ddarpariaeth ddiwylliannol yn Eisteddfod yr Urdd
  • I gefnogi gwaith maes yr Urdd
  • I sefydlu gwobrau neu ysgoloriaethau

Sut allaf adael cymynrodd?

Gall unrhyw unigolyn, ar unrhyw bwynt yn eu bywydau, greu cymynrhodd.  Argymhellwn gael cymorth proffesiynol gan gyfreithiwr wrth ystyried llunio, neu addasu ewyllys.    Gall gyfreithwyr hefyd eich cynghori ynglŷn â goblygiadau all fodoli o ran lleihau’r dreth y byddwch yn talu ar eich eiddo.

Os hoffech drafod y posibilrwydd o adael rhodd ymhellach, croeso i chi gysylltu gyda Gwenno Williams, gwennowilliams@urdd.org. Byddwn yn cadw pob sgwrs yn gyfrinachol pe ddymunwch.

Os ydych eisoes wedi penderfynu gadael rhodd i’r mudiad, ac yn fodlon rhoi gwybod inni, byddai hynny’n rhoi cyfle inni ddiolch yn bersonol ichi, yn ogystal â blaengynllunio ar gyfer y dyfodol.