Cyfrannu i'r gronfa

Diolch ichi am ystyried cyfrannu i Gronfa Cyfle i Bawb, y gronfa sy'n rhoi cyfle i blant Cymru fwynhau gwersyll haf.

Nôl

Sut galla i gefnogi?
Gallwch ddewis rhwng nifer o ffyrdd i gyfrannu i'r gronfa, ac mae hi'n broses hawdd a chyflym:

1. Cyfraniad un tro gyda PayPal

2. Cyfrannu mewn rhandaliadau misol trwy PayPal

3. Anfon siec

Faint galla i roi?
Ar hyn o bryd, gofynnwn yn garedig am nawdd o £150. Byddai hyn yn gyfraniad sylwedddol am wyliau llawn gweithgareddau i un plentyn, yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, Glan-llyn neu Caerdydd. 

Am beth bydd fy arian yn talu?
Yn ogystal a thrafnidiaeth, llety, a bwyd i blentyn am 5 diwrnod, bydd eich cyfraniad yn talu am hyd at 35 o weithgareddau cyffrous, gan gynnwys canŵio, rafftio, weiren zip, beiciau modur, sgïo, nofio, canu a dawnsio, heb sôn am y cyfle i wneud ffrindiau newydd a chreu atgofion oes!

Beth fydd yn digwydd nesaf?
O fis Chwefror 2023 byddwn yn derbyn ceisiadau am le ar wyliau gwersyll ar gyfer yr haf. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad trwy gylchlythyr blynyddol i ddangos i chi sut mae eich cyfraniad wedi gwneud gwahaniaeth, ac i gydnabod eich cyfraniad hael byddwch hefyd yn derbyn: 

  • Bathodyn pin cyfrannwr
  • Gwahoddiad i’r gwersylloedd neu i ddigwyddiad arbennig
  • Cerdyn post o’r gwersyll