Cefnogwch yr Urdd drwy brynu het goch, gwyn a gwyrdd.

 
 
 

Mae'r hetiau bellach ar werth yn y siopau lleol yma:

Awen Meirion, Y Bala
Bodlon, Eglwys Newydd, Caerdydd
Goodsheds, Y Barri
Siop y Pethe, Aberystwyth
Palas Print, Caernarfon

Beth yw bwriad ymgyrch 'Het i Helpu'?

O ganlyniad i sefyllfa Covid-19, mae’r Urdd yn wynebu’r cyfnod mwyaf heriol yn ein hanes.

Yn ystod y misoedd diwethaf, o ganlyniad i Covid-19:

  • Mae’r mudiad wedi colli 49% o’i gweithlu

  • Mae gwersylloedd yr Urdd wedi gorfod cau ac yn parhau i fod ar gau i breswylwyr

  • A bu'n rhaid gohirio gweithgareddau yn y gymuned ledled Cymru, gweithgareddau celfyddydol, chwaraeon a'r Eisteddfod.

Mae’r rhagolwg ariannol am y ddwy flynedd nesaf yn dangos gostyngiad incwm sylweddol. Felly, mae ymgyrch 'Het i Helpu' yn annog pobl ledled Cymru a thu hwnt i brynu Het i Helpu, i godi arian a rhannu ewyllys da tuag at y mudiad yn y cyfnod anodd hwn.

Os gallwch chi, ystyriwch brynu Het i Helpu. I chi'ch hun, i anwyliaid, neu fel anrhegion Nadolig - rydyn ni'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth.

Gwyliwch chwaraewyr pêl-droed mwyaf adnabyddus Cymru yn cefnogi ymgyrch Het i Helpu'r Urdd

Cofiwch rannu eich lluniau gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol!

#HetIHelpu @urddgobaithcymru

 

DIOLCH