Pam creu partneriaeth gyda'r Urdd?
Mae gan yr Urdd brofiad helaeth o gydweithio’n llwyddiannus gyda phartneriaid corfforaethol. Rydym fel mudiad yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cefnogaeth bwysig. Gellir gweld rhestr lawn o'n partneriaid yma
Fel elusen gofrestredig rydym yn edrych yn barhaus i gynyddu ar ein partneriaethau gyda sefydliadau yng Nghymru, yn arbennig yng nghyd-destun ein digwyddiadau cenedlaethol megis Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a Gemau Cymru.
Gyda dros 50,000 o aelodau, yr Urdd yw mudiad ieuenctid mwyaf Cymru. Drwy bartneriaethau, gall yr Urdd gynorthwyo busnesau i gael effaith positif yn eu cymunedau. Rydym hefyd yn falch o allu cynnig buddiannau a chyfleoedd hyrwyddo pwysig i’n cefnogwyr corfforaethol.
Mae partneriaeth gyda’r Urdd yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth a phroffil eich sefydliad ar hyd a lled Cymru gan gynnig cefnogaeth hanfodol i’r Urdd yn ogystal.
Cyfleoedd i noddi:
Y Celfyddydau: Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
Uchafbwynt gweithgareddau blynyddol yr Urdd ydy Eisteddfod yr Urdd - Gŵyl Ieuenctid fwyaf Ewrop.
Mae’r ŵyl ddiwylliannol hon yn denu 15,000 o gystadleuwyr, 90,000 o ymwelwyr yn ogystal â chynulleidfa eang ar deledu a radio. Mae S4C yn darlledu dros 80 awr yr wythnos a darllediadau dyddiol ar Radio Cymru o’r maes. Nid yn unig yn y Gymraeg y caiff y sylw gan fod Radio Wales hefyd yn darlledu ac fe geir tudalennau dyddiol yn y wasg mewn papurau megis y Western Mail a’r Daily Post.
Mae ystod eang o becynnau nawdd ar gael, sy’n caniatáu noddi pob math o elfennau - o gystadlaethau ar y llwyfan, sioeau a chyngherddau, i noddi ardaloedd penodol o’r maes. Fel rhan o’r pecynnau hyn gallwn drafod cynnwys ystod o fuddiannau marchnata i’ch cwmni neu sefydliad.
Chwaraeon: Gemau Cymru
Bob blwyddyn mae dros 30,000 o blant yn cyfranogi yng ngweithgareddau chwaraeon yr Urdd ar hyd a lled y wlad.
Heb os, uchafbwynt y cystadlu hyn ydy Gemau Cymru: penwythnos cyffrous o gystadlaethau chwaraeon cenedlaethol sy’n cael ei gynnal ym mis Gorffennaf mewn gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd.
Daw oddeutu 1,000 o athletwyr ifanc gorau Cymru i gystadlu yn y Gemau, sydd bellach wedi eu sefydlu fel rhan annatod o lwybr datblygiad athletwyr ifanc ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Mae nawdd corfforaethol yn allweddol i lwyddiant y digwyddiad. Caiff noddwyr fuddiannau marchnata, hyrwyddo a rhwydweithio pwysig. Hyrwyddir y digwyddiad drwy ein partneriaethau a darlledir rhaglen uchafbwyntiau ar S4C.
Gwaith yr Urdd yn y Gymuned
Gyda 50,000 o aelodau 900 o aelwydydd a changhennau dros y wlad, mae’r Urdd yn trefnu ystod eang o ddigwyddiadau celfyddydol, chwaraeon a hamdden drwy gydol y flwyddyn ac ym mhob ardal o Gymru, gan gynnwys:
- Cystadleuaeth Rygbi Cenedlaethol
- Cystadlaethau Rhanbarthol
- Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth
- Hyfforddiant i bobl ifanc ar feysydd perthnasol iddyn nhw
Gall cefnogaeth gan gwmnïau sicrhau ein bod yn gallu buddsoddi mwy yn y digwyddiadau hyn, gan wella’r profiad a’r ddarpariaeth y gallwn gynnig. Gall pecynnau nawdd amrywiol yr Urdd gael eu teilwra i gyd-fynd â’ch amcanion marchnata a'ch cyllideb.