Mae rhoddion ariannol yn gymorth mawr i'r Urdd allu cynnal gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc Cymru.

Boed yn gyfraniadau bach neu mawr, rydym yn ddiolchgar iawn o bob rhodd. Gallwch hefyd osod taliad misol sy'n eich galluogi chi i gyfrannu pob mis i waith yr Urdd, ac yn ein galluogi ni i gynllunio gweithgareddau ar gyfer y dyfodol. Mae croeso i chi gysylltu â ni am sgwrs os hoffech chi gyfrannu tu hwnt i'r opsiynau yma: helo@urdd.org

Gyda phob cyfraniad o £20 neu fwy bydd cefnogwyr yn derbyn bathodyn arbennig trwy'r post.

Bathodyn Aelodaeth 2023-24
Bathodyn Aelodaeth 2023-24

Sut bydd fy rhodd yn cael ei ddefnyddio?

Dros y cyfnod diweddaraf, defnyddiwyd cyfraniadau gan unigolion er mwyn:

  • Cynnal gweithgareddau yn y Gymraeg yn lleol mewn cymunedau ledled Cymru
  • Cynnig gwyliau haf yng ngwersylloedd yr Urdd i blant difreintiedig (Cronfa Cyfle i Bawb)
  • Gwella profiadau ymwelwyr a chystadleuwyr yn yr Eisteddfodau lleol
  • Datblygu adnoddau addas i ddefnyddio mewn gweithgareddau
  • Llogi lleoliadau i gynnal digwyddiadau fel cystadlaethau chwaraeon, rimbojams a jamboris
  • Cynnig costau teithio i wirfoddolwyr a chynorthwywyr
  • Cynnig gweithdai neu hyfforddiant i bobl ifanc ar themâu sy’n berthnasol iddyn nhw
Gwersyll Llangrannog yn y dyddiau cynnar
Gwersyll Llangrannog yn y dyddiau cynnar

Pam rhoi i'r Urdd?

Mae holl weithgareddau’r Urdd – ar lefel lleol a chenedlaethol, yn ddibynnol ar ddod o hyd i ddigon o arian ac adnoddau.

Ers ei sefydlu yn 1922 mae’r Urdd wedi chwarae rhan hanfodol yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ymysg ieuenctid Cymru.

Mae gan miloedd o bobl atgofion melys o ymwneud â'r Urdd dros y blynyddoedd, ac mae eich rhodd yn gymorth mawr i ni barhau gyda'r gwaith allweddol hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Alldaith i gopa'r Wyddfa gyda thîm Awyr Agored yr Urdd yn 2019
Alldaith i gopa'r Wyddfa gyda thîm Awyr Agored yr Urdd yn 2019

Ein nod yw i ddarparu ystod eang o brofiadau bythgofiadwy i blant a phobl ifanc, gan roi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau cymdeithasol a phersonol pwysig, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Efallai’n bwysicach na dim, mae cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Urdd wedi darparu cenedlaethau o bobl ifanc gydag atgofion a ffrindiau oes.

Fel elusen gofrestredig, ni fyddai’n bosibl i ni barhau gyda’n gwaith heb gefnogaeth ariannol o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys tâl aelodaeth, nawdd corfforaethol, rhoddion gan unigolion a grantiau llywodraeth.

Diolch yn fawr am bob cefnogaeth.