Beth yw Cronfa Cyfle i Bawb?

Yn anffodus, nid yw pob plentyn yn cael cyfle i fynd ar wyliau haf. Nod Cronfa Cyfle i Bawb yw sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle i greu atgofion ar wersyll haf, a gallwch chi ein helpu!

Wyddoch chi bod 29% o blant Cymru yn byw mewn tlodi? Mae pob plentyn yn haeddu cael mwynhau haf o wneud atgofion gyda ffrindiau mewn amgylchedd diogel, ond gall tlodi atal plant rhag cael y cyfleoedd hyn. Rydyn ni am sicrhau fod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle i greu atgofion ar wersyll haf, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol. 

Ers y 1930au mae degau o filoedd o Gymry wedi mynychu gwersylloedd haf yr Urdd, ac mae'n bosib iawn eich bod chi'n un o'r rheiny! Mae gan lawer ohonom atgofion melys o dwmpathau dawns, te gwersyll, cerdded i'r traeth ac wrth hynny creu ffrindiau oes! Bwriad yr ymgyrch newydd sbon hwn yw cynnig profiadau bythgofiadwy i griw newydd o ieuenctid Cymru.

Rydym yn chwilio am gyfranwyr i roi i Gronfa Cyfle i Bawb - Gwersylloedd Haf yr Urdd, i ariannu cyfnod yn un o'n gwersylloedd i blant na fyddai fel arall yn cael cyfle i fwynhau gwyliau haf.

Byddai cyfraniad o £180 yn talu am gost gwyliau llawn gweithgareddau i un plentyn, yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, Glan-llyn, Caerdydd neu Pentre Ifan. 

Hoffech chi ein helpu i sicrhau fod plant Cymru i gyd yn cael yr un cyfle i fwynhau gwyliau haf yn un o wersylloedd yr Urdd?

Cyfrannu i'r gronfa