Cyfraniadau gan awduron, artistiaid, darlunwyr a ffotograffwyr

Mae cylchgronau Cip a IAW! yn croesawu ac yn blaenoriaethu gweithiau gan awduron, artistiaid, darlunwyr a ffotograffwyr o gefndiroedd amrywiol ac yn awyddus i dderbyn ceisiadau i gydweithio. Cysylltwch â ni heddiw i drafod ymhellach, drwy e-bostio cylchgronau@urdd.org 

Datganiad Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

1. Nod Urdd Gobaith Cymru yw sicrhau cyfle, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg i holl ieuenctid Cymru ddatblygu’n unigolion cyflawn, a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas, gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol.

2. Mae’r Urdd yn cynnwys corff amrywiol o bobl sydd â gwahanol safbwyntiau, gwerthoedd ac agweddau. Rydym yn ceisio hyrwyddo amgylchedd cynhwysol lle mae gwahaniaethau o'r fath yn cael eu rhannu a’u harchwilio; a lle y caiff unrhyw driniaeth annheg neu wahaniaethu ei herio a’i ddileu. Yn ogystal â hyrwyddo cyfle cyfartal a chynwysoldeb yn ein holl weithgareddau, byddwn hefyd yn hyrwyddo egwyddorion amrywiaeth ar draws yr Urdd. Mae amrywiaeth yn ychwanegu dimensiynau eraill at yr agenda cydraddoldeb, gan wneud yn siŵr bod anghenion gwahanol grwpiau neu unigolion yn cael eu gwerthfawrogi a’u dathlu.

3. O ran ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn diogelu pobl sydd â nodweddion penodol, fel a ganlyn: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.