Wyt ti'n cofio'r Arddorfa yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych llynedd?
'Da ni angen dy help di er mwyn i'r arddorfa edrych yr un mor drawiadol 'leni!
Gofynnwn i chi fel ysgolion, clybiau ieuenctid neu unigolion i blannu pâr o hen sgidiau neu wellingtons llawn blodau neu gnydau. Chi piau’r dewis o beth i blannu ynddynt!
Dyma gyfarwyddiadau bras i chi ddilyn, gwyliwch fideo o Adam yn yr Ardd fel ysbrydoliaeth!
Gwylio'r Fideo
- Dewch o hyd i hen bar o wellingtos neu sgidie i’w ailgylchu.
- Bydd angen creu tyllau yn eu gwaelod (os nad oes tyllau ynddynt yn barod wrth gwrs) yn defnyddio sgriwdrifyr neu dril – gofynnwch am help gan eich rhieni!
- Gosodwch ychydig o ro mân yn y gwaelod i helpu’r draeniad, ac ychwanegu compost difawn ynddynt – rhyw hanner ffordd lan am y tro.
- Dewiswch pa blanhigion i blannu ynddynt - gallwch hau hadau yn syth i mewn, neu blannu planhigion amrywiol.
- Sicrhewch bod digon o le i’r planhigion dyfu a sefydlu i greu llond llwybr troed o liw - felly dewiswch yn ofalus!
- Gosodwch gompost o amgylch y gwreiddiau ac yna eu dyfrio’n dda!
Bydd modd i chi adael eich welis mewn hybiau ar draws Cymru a bydd aelodau o staff yr Urdd yn eu casglu ac yn mynd a’ch welis i’r Eisteddfod ar eich rhan. Cofrestrwch eich welis yn y ffurflen sydd yn y bocs pinc!
Dyddiad Cau: 24 o Fai