Mae Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2019 ac yn cael ei gynnal ar y 5ed o Fawrth am 6yh yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Mae’r ysgoloriaeth wedi helpu nifer o berfformwyr ifanc i gyrraedd llwyfan proffesiynol ac, mewn sawl achos, wedi arwain at yrfa ryngwladol.
Mae panel o feirniad wedi dewis y chwe chystadleuydd mwyaf addawol o fewn y categori oedran hŷn o dan 25 oed yn dilyn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022, i ymgeisio am Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2022 eleni.
Y chwech fydd yn cystadlu am yr Ysgoloriaeth eleni fydd Fflur Davies (Cylch Arfon), Gwenno Morgan (Aelwyd Llundain), Ioan Williams (Adran Bro Taf), Mali Elwy (Adran Bro Aled), Owain Rowlands (Aelod Unigol Blaenau Tywi) a Rhydian Tiddy (Cylch Blaenau Tywi).
Ar noson yr ysgoloriaeth, bydd Barri Gwilliam, Sioned Terry, Bethan Williams-Jones a Gwennan Gibbard yn beirniadu y chwech.
Mae’r chwech cystadleuydd wedi derbyn dosbarthiadau meistr unigol a mentor yn ystod yr wythnosau diwethaf fel rhan o’r paratoadau ar gyfer yr ysgoloriaeth –
- Dosbarth Meistr Sioe Gerdd gan Steffan Harri i Fflur Davies
- Dosbarth Meistr Piano gan Iwan Llywelyn Jones i Gwenno Morgan
- Dosbarth Meistr Dawns gan Osian Meilir i Ioan Williams
- Dobarth Meistr Theatr gan Ffion Dafis i Mali Elwy
- Dobsarth Meistr Lleisiol gan Rhian Lois i Owain Rowlands
- Dobsarth Meistr Trombôn gan Dafydd Thomas i Rhydian Tiddy
Bu’r chwech hefyd dderbyn sesiynau fel grŵp gan Stifyn Parri ac Angharad Lee.
I archebu tocyn ar gyfer noson yr ysgoloriaeth ar y 5ed o Fawrth, cliciwch y botwm pinc. Bydd y noson hefyd ar gael i’w wylio ar S4C ar nos Sul y 12fed o Fawrth.