Drama fuddugol yn trafod digartrefedd yng Nghaerdydd

Cyfieithydd sy’n wreiddiol o Gei Newydd yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2019. 

Daw Mared Roberts yn wreiddiol o Bentre’r Bryn, ger Cei Newydd, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd lle mae’n gyfieithydd gyda’r Gwasanaeth Iechyd. Mae’n ennill am ddrama, yn ôl y beirniaid, ‘hyderus, cyfredol a pherthnasol iawn’ sy’n sôn am ddigartrefedd yn y brifddinas.  

Daeth Mared i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd chwe blynedd yn ôl ar ôl bod yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Teifi. Daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd ac mae wedi ennill coron ddwywaith yn olynol yn Eisteddfod Ryng-golegol Cymru. Fel rhan o’r ail wobr y llynedd, cafodd gyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn Nhŷ Newydd ac mae’n dweud iddi elwa’n fawr o’r profiad o gael arweiniad gan lenorion profiadol.

Cymerodd ran hefyd yng Ngwyl Hanes Cymru i Blant y llynedd, sef prosiect gyda ‘Mewn Cymeriad’, lle ysgrifennodd ddrama o’r enw ‘Pleidiol Wyf i’m Gwlân’ am Arglwyddes Llanofer a’r Diwydiant Gwlân.

Meddai Mared:

“Hoffwn ddiolch o waelod calon i Elin Williams, fy athrawes Gymraeg, am ei hanogaeth barhaus. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Taid, Gruffudd Roberts, sydd wedi bod yn ddylanwad mawr wrth gynnau fy niddordeb mewn trin geiriau.”

Wrth draddodi o’r llwyfan, meddai’r beirniad Branwen Davies, oedd yn cyd-feirniadu gyda Mared Swain:

“Mae ysgrifennu drama yn fwy na rhywbeth llenyddol ac mae theatr yn fwy na opera sebon ar lwyfan! Mae posibiliadau theatr yn ddiddiwedd ac roeddem yn gyffrous i weld beth oedd wedi sbarduno’r dramodwyr ifanc i ysgrifennu ar gyfer y cyfrwng arbennig yma.

“Pedair drama ddaeth i law, y bedair yn heriol neu dywyll eu naws. Prif themâu’r dramâu oedd digartrefedd, cyffuriau, alcoholiaeth, galar, iechyd meddwl a diwedd y byd. Adlewyrchu’r gymdeithas rydyn ni’n byw ynddi o bosib, ar hyn sydd yn ein poenydio ni neu’n cadw ni’n effro gyda’r nos. Ond hoffwn atgoffa ein dramodwyr – mae lle i’r llon a’r lleddf. Nid gair budur ydy comedi a hiwmor. Mae’n bwysig dod o hyd i gydbwysedd. Mae modd cyfuno hiwmor ac ysgafnder gyda themâu tywyll hefyd er mwyn dadansoddi a dehongli y byd ryda ni’n byw ynddo – dyna ydy bywyd wedi’r cyfan – cyfuniad o’r llon a’r lleddf a dyna sy’n ei gwneud ni’n ddynol.”

Meddai am y ddrama fuddugol, sef SGIDIE, SGIDIE, SGIDIE :

“Mae hon yn ddrama hyderus, cyfredol a pherthnasol iawn sy’n taflu golwg bersonol ar broblem digartrefedd Caerdydd. Ceir ymdrech dda ar fonolog ac mae’n braf clywed llais sydd ddim fel arfer yn cael ei glywed yn y Gymraeg. Ceir  cyffyrddiadau gweledol effeithiol iawn e.e. yr amryw esgidiau yn mynd heibio, chwalu’r sebon yn y gawod a swatio yn y babell yn y glaw.

“Mae’r ddwy ohonom ni yn gytûn mai Sgidie, Sgidie, Sgidie ydy’r ddrama sydd yn deilwng o’r wobr eleni ac rydym yn gobeithio yn fawr y bydd cyfle i ddatblygu’r fonolog i greu drama heriol am ferch ifanc, ddigartref yng Nghaerdydd.”

Bydd cyfle i enillydd y fedal dreulio amser yng nghwmni Theatr Genedlaethol Cymru yn datblygu ei gwaith a derbyn hyfforddiant pellach gyda BBC Cymru.

Bydd cyfle hefyd i ddatblygu ei syniadau gyda Phrifysgol y Drindod Dewi Sant yn ogystal â threulio amser gydag S4C i dderbyn cyflwyniad i ysgrifennu ar gyfer y teledu.

Noddwyd y seremoni gan Brifysgol De Cymru.