Yr Urdd yn talu teyrnged i'r diweddar Prys Edwards

Gyda thristwch gwirioneddol y mae Urdd Gobaith Cymru’n talu teyrnged i'r diweddar Prys Edwards, mab sylfaenydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards a Lady Eirys Edward. Roedd Prys Edwards wedi ymroi i waith yr Urdd ar hyd y blynyddoedd ac yn arweinydd brwd a chadarn. Bellach roedd yn un o Lywyddion Anrhydeddus y mudiad, a hyd yn oed yn ei waeledd, yn frwdfrydig am ddyfodol a pharhad prif fudiad ieuenctid Cymru. 

Doedd dim yn amhosib i’r Urdd ei gyflawni ym marn Prys”, meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd. “Ei gas beth oedd tangyflawni neu beidio â gweld cyfleoedd. Roedd ei gyfeillgarwch, ei gyngor a’i weledigaeth yn hynod werthfawr. Mae colled enfawr i’w theimlo ar ei ôl.” 

Bu Prys, pensaer wrth ei alwedigaeth, yn rhan o bwyllgorau a threfniadaeth yr Urdd am dros chwe deg o flynyddoedd.  

“Magwyd ef ar aelwyd lle roedd y mudiad yn rhan o’r teulu. Roedd y mudiad a Phrys yn un mewn gwirionedd,” meddai Dyfrig Davies, Cadeirydd yr Urdd. “Yn ein cyfarfodydd, roedd mwy nag angerdd yn ei syniadau a’i gynlluniau am y Mudiad.  

Roedd yn hynod falch a gwerthfawrogol o’r gwaith a gafodd ei wneud, ond doedd dim gorffwys ar rwyfau yn ei gynhysgaeth. Anelu yn uwch a gwell a mwy dros ieuenctid Cymru, yr iaith Gymraeg a’r diwylliant, dyna oedd ei nod. Dw i’n ystyried hi’n fraint bod wedi cael ei adnabod a chydweithio ag ef. Mae ei lais a’i frwdfrydedd yn fyw o hyd ac yn ein gyrru i sicrhau’r gorau i Urdd Gobaith Cymru. Colled enfawr i Cath ei wraig, Siôn a Lisa ei blant a’i deulu a’i ffrindiau i gyd. Colled enfawr hefyd i bawb sydd wedi elwa ac yn caru’r Urdd. Un o fawrion Cymru o ran ymroddiad, gweledigaeth a’r hyn a lwyddodd i gyflawni. Diolch am bobl fel Prys. 

Roedd Prys wrth ei fodd yn cael dianc o rhialtwch bywyd bob dydd ac ymweld â rhai o wersylloedd yr Urdd. Bu ar ymweliad yn ddiweddar gyda Llangrannog, ac yn hynod o falch o’r datblygiadau newydd a chyffrous sydd ar y gweill yno, yng Nglan-llyn, Caerdydd a Phentre Ifan.  

Fel gŵr busnes craff ac un a wasanaethodd ar sawl corff cyhoeddus yng Nghymru, roedd yr Urdd yn agosach at ei galon na’r un, dyna pam bod cyn aelodau ac aelodau presennol y mudiad, ynghyd â staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid yn ymdeimlo â maint y golled.

17.03.20