Aelodau 18-25 ar Fyrddau Strategol yr Urdd
Mae gan bobl ifanc rôl allweddol yn ein llywodraethiant. Mae o leiaf 2 sedd ar bob un o’n byrddau strategol wedi eu neilltuo i’n haelodau.
Bellach mae’n ddiwedd gyfnod ar yr aelodau 18-25 oed presennol ac rydym yn chwilio am aelodau newydd i eistedd ar bob un o’r byrddau am gyfnod amser o 3 blynedd. Byrddau Strategol yr Urdd:
- Bwrdd Adnoddau Dynol
- Bwrdd Busnes
- Bwrdd Celfyddydau
- Bwrdd Chwaraeon a Phrentisiaethau
- Bwrdd Gwersylloedd
- Bwrdd Technoleg Gwybodaeth
Dyma gyfle unigryw i gefnogi mudiad sydd wedi grymuso cenedlaethau o bobl ifanc yng Nghymru. Nid oes angen profiad blaenorol nac arbenigedd – rydym yn chwilio am lleisiau newydd, brwdfrydedd, a safbwyntiau amrywiol.
Tra’n parchu ein haelodaeth graidd, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein Byrddau Strategol yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru heddiw. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan unigolion o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli yng Nghymru.
Rydym yn credu bod amrywiaeth o brofiadau a safbwyntiau yn cryfhau ein gwaith ac yn sicrhau bod llais pob person ifanc yn cael ei gynrychioli.
Sut i wneud cais?
Cwblhewch y ffurflen gais ar lein sydd yn gofyn:
- Pam rydych chi eisiau ymuno â’r Bwrdd
- Pa safbwyntiau neu brofiadau rydych chi’n eu cynnig
Dyddiad cau: 13 Tachwedd
Sgiliau a Phrofiad Dymunol
Rydym yn chwilio am ystod o sgiliau a safbwyntiau, gan gynnwys:
- Dealltwriaeth ac ymrwymiad i nod Urdd Gobaith Cymru a’r cynllun strategol Urdd i Bawb
- Gwerthfawrogi effaith darpariaeth yr Urdd ym mywydau plant a phobl ifanc.
- Parodrwydd i ofyn y cwestiynau fel “beth os” a “beth nesaf”.
- Dangos parch a chwrteisi tuag at aelodau eraill y Bwrdd, staff a gwirfoddolwyr.
- Parodrwydd i fynegi barn a chroesawu syniadau ac i ystyried atebion creadigol er mwyn gwella cynnig yr Urdd.
- Angerddol am ddatblygiad ieuenctid a diwylliant Cymreig.
- Ymroddedig i gynhwysiant, parch, a chyfranogiad cymunedol.
Disgwyliadau
- Hyd y rôl: 3 blynedd
- Cyfarfodydd: Dwywaith y flwyddyn (ar-lein neu wyneb yn wyneb).
- Cyfranogiad: Darllen papurau, cyfrannu’n ystyrlon, a chymryd rhan mewn is-grwpiau lle bo’n berthnasol.
- Cynrychiolaeth:Cyfrannu safbwyntiau o bersbectif pobl ifanc ac sydd yn adlewyrchu realiti bywyd ieuenctid yng Nghymru heddiw.
- Cydymffurfio: Parchu cyfrinachedd a gweithredu’n broffesiynol.
- Hyrwyddogwerthoedd yr Urdd a chefnogi cynhwysiant, cydraddoldeb a grymuso pobl ifanc.
Cefnogaeth i chi
Byddwn yn eich cefnogi drwy:
- Cyfarfod anwytho cychwynnol
- Sesiynau cadw mewn cyswllt dros y 3 blynedd
- Mentora gan Gadeirydd y Bwrdd, Swyddogion yr Urdd a’r UDRh (Uwch Dîm Rheoli)
- Cyfleoedd i ddylanwadu a rhwydweithio
- Ymweliadau â darpariaeth yr Urdd yn ôl yr angen
- Rhannu cyfleoedd rhwydweithio a digwyddiadau gan bartneriaid allanol
Beth yw’r budd i chi?
- Ennill Profiad arwain ar lefel strategol
- Cynrychioli’r Urdd mewn digwyddiadau cenedlaethol a lleol.
- Llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar filoedd o bobl ifanc
- Cyfleoedd rhwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol ac arweinwyr ieuenctid
- Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru