Cefndir y Bwrdd Gwersylloedd

Rydym wedi sefydlu’r Bwrdd yma o’r newydd i ddarparu arbenigedd a chyngor ar y cyd er mwyn llywio strategaeth Gwersylloedd yr Urdd.  Mae holl ganolfannau preswyl yr Urdd yn cynnig cyfleoedd i blant, ieuenctid ac oedolion i breswylio, addysgu a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymraeg a Chymreig, proffesiynol, diogel a chroesawgar. Maent yn hanfodol i ddatblygu'r cenedlaethau nesaf o ddinasyddion  Cymru a’u hymrwymiad i’n hiaith a’n diwylliant. Mae’r Gwersylloedd yn ffynhonnell incwm hanfodol i fodel busnes yr Urdd ac yn cyfrannu £6.9miliwn i economi Cymru.

Jim O’Rourke

Jim O’Rourke

Cadeirydd y Bwrdd Gwersylloedd

Rwyf yn Gyfarwyddwr Cwmni fy hun, yn hunain cyflogedig fel Ymgynghorydd Busnes Cyn hynny roeddwn yn Gyn Pennaeth Gwersyll Llangrannog a Phrif Weithredwr Yr Urdd. Yn 1995, gadewais fy nghyflogaeth gyda’r Urdd i weithio ar brosiect y Tŷ Opera newydd ym Mae Caerdydd. Yn y cyfnod hwn, llwyddais i gynnwys Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn natblygiad Canolfan Mileniwm Cymru. Bellach rwyf yn arbenigwr ar ddatblygu canolfannau preswyl gan gynnwys gwestai, canolfannau i oedolion a phlant ac atyniadau e.e. Nant Gwrtheyrn. Ar hyn y bryd rwyf yn rheoli prosiect i adnewyddu a datblygu'r Hen Goleg yn Aberystwyth, cynllun sydd yn werth £35m ac yn cynnwys gwesty 4*.

Rôl y Bwrdd Gwersylloedd

  • Cefnogi'r cyfarwyddwyr a staff y gwersylloedd i ddatblygu cynllun strategol y gwersylloedd gan gymeradwyo’r fersiwn terfynol
  • Adolygu (ar y cyd gyda staff yr Adran) nod strategol y Gwersylloedd
  • Sicrhau atebolrwydd trwy graffu a monitro allbynnau a pherfformiad ariannol y gwersylloedd
  • Adolygu'r rhaglen adnewyddu eiddo a chyfalaf y gwersylloedd
  • Rhannu arweiniad a chefnogaeth mewn meysydd penodol e.e. twristiaeth, cyllid, adnoddau dynol, marchnata, eiddo
  • Cyflwyno argymhellion i Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd