Cyfieithu

Dyddiad Cau: 1 Mawrth 2020
Cofiwch fod rhaid ymaelodi gyda'r Urdd cyn cystadlu!

341. Cystadleuaeth Cyfieithu 19–25 oed

Y Dasg

Bydd angen i’r ymgeiswyr gyfieithu darn penodol o ryw 300 o eiriau o’r Saesneg i’r Gymraeg - mae'r darn i'w weld ar y dde. 

Bydd cyfle i’r enillydd dreulio diwrnod gyda Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Cynhelir y gystadleuaeth hon mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru. 

Beirniad: Tegwen Williams