Cefndir a phwrpas Bwrdd Chwaraeon a Phrentisiaethau yr Urdd

Sefydlwyd y Bwrdd yn 2020, a’i rôl yw rhannu arbenigedd a chyngor i lywio strategaeth yr adran Chwaraeon a Phrentisiaethau.  Rydym am sicrhau cyfleoedd ar draws Cymru i bob plentyn wirioni ar chwaraeon a hynny drwy gynnal clybiau, cystadlaethau, hyfforddiant a gwyliau chwaraeon rhanbarthol a chenedlaethol. O fewn ein hadran Prentisiaethau, ein gweledigaeth yw meithrin gweithlu hyderus a dwyieithog trwy ddarparu cyfleoedd i bobl i ddysgu, i ddatblygu’n bersonol a chymdeithasol, ac i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg.

Gemma Cutter

Gemma Cutter

Cadeirydd Bwrdd Chwaraeon a Phrentisiaethau

Mae gan Gemma 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector Chwaraeon. Mae yn gweithio i Chwaraeon Anabledd Cymru fel Uwch Swyddog Llwybr Perfformiad Cenedlaethol yn dylanwadu ac yn cydweithio â phartneriaid o Gymru a’r DU/Prydain i ddatblygu llwybrau sy’n cynnwys pobl anabl. Ymunodd yn aelod o’r Bwrdd hwn yn 2020 ac wedi cefnogi’r Urdd i ennill safon gwobr aur fawreddog 'insport' sy’n dangos eu hymrwymiad i gynhwysiant. Mae’r Urdd wedi bod yn rhan bwysig o fywyd Gemma gyda’i phlant yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i ganu, mynychu’r canolfannau preswyl ac i fod yn egnïol ar y maes chwaraeon. Mae’r Bwrdd a’r tîm am sicrhau bod pawb ledled Cymru yn cael profiadau cadarnhaol ac yn mynychu’r cyfleoedd cynhwysol sydd ar gael drwy’r tîm Chwaraeon a Phrentisiaethau.

Rôl y Bwrdd Chwaraeon a Phrentisiaethau

  • Cefnogi'r cyfarwyddwr a staff yr adran i ddatblygu cynllun strategol yr adran gan gymeradwyo’r fersiwn terfynol
  • Adolygu (ar y cyd gyda staff yr Adran) nod strategol yr Adran Chwaraeon a Phrentisiaethau
  • Sicrhau atebolrwydd trwy graffu a monitro allbynnau a pherfformiad ariannol yr adran
  • Rhannu arweiniad a chefnogaeth mewn meysydd penodol ym maes Chwaraeon a Phrentisiaethau
  • Cyflwyno argymhellion i Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd

Rydym am apwyntio aelodau ychwanegol i'r Bwrdd Chwaraeon a Phrentisiaethau

Mae hyd at 2 sedd wag ac rydym yn chwilio am aelodau sydd â phrofiad Dysgu yn y Gweithle neu addysg alwedigaethol ôl 16.

Manylion y Rôl

  • Mae tymor pob aelod o’r bwrdd yn para tair blynedd.
  • Cynhelir 2 cyfarfod y flwyddyn sydd yn cynnwys cyfarfodydd ac ar-lein ac un cyfarfod mewn person y flwyddyn.

Beth rydym yn ei ddisgwyl:

  • Ymroddiad i weledigaeth a gwerthoedd strategaeth gorfforaethol yr Urdd.
  • Cydymffurfiaeth â egwyddorion llywodraethu da, gan gynnwys uniondeb, tryloywder a chyfrifoldeb.
  • Parodrwydd i fynegi barn, cefnogi ac herio’n adeiladol, a chyfrannu at wneud penderfyniadau strategol.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn ymrwymedig i greu byrddau sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan unigolion o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli yng Nghymru.

Sut i wneud cais

Cwblhewch y ffurflen gais ar lein gan nodi:

  • Eich profiad neu ddiddordeb perthnasol
  • Pam rydych chi eisiau ymuno â Bwrdd Strategol
  • Sut rydych chi’n uniaethu â gweledigaeth a gwerthoedd yr Urdd

Dyddiad cau: 13 Tachwedd 2025