Cyhoeddi enillwyr Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc a Medal Gelf Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Catrin Jones o Lanwnnen, Ceredigion yw enillydd Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc a Nel Thomas o Gaerdydd yw enillydd Medal Gelf, Dylunio a Thechnoleg Eisteddfod yr Urdd 2022.

Cyflwynir Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc, gwerth £2000 drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a’i deulu, am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng Bl.10 ac o dan 25 oed. Cyflwynir y Fedal Gelf ar gyfer y gwaith mwyaf addawol yn y categori oedran blwyddyn 10 ac o dan 19 oed, ac fe’i rhoddir gan Bapur Bro Y Bigwn.

Mae Catrin, enillydd yr Ysgoloriaeth, yn 18 oed ac yn dod o Lanwnnen ger Llambed. Mae hi’n ddisgybl yn Ysgol Bro Pedr ac newydd gwblhau ei arholiadau Lefel A mewn Celf, Hanes ac Addysg Grefyddol. Yn y dyfodol ei gobaith yw dilyn cwrs sylfaen mewn celf ac yna symud ymlaen i gwrs gradd. Cyflwynodd ei gwaith cwrs lefel A ar gyfer y gystadleuaeth gan ddewis y thema ‘static’ sy’n crynhoi ei diddordeb mewn materion fel hawliau menywod a iechyd meddwl. Roedd hi’n awyddus i arddangos y pynciau hyn drwy greu darnau anarferol a thywyll.

Dywedodd Catrin: “Dwi wastad wedi mwynhau celf. Cynyddodd fy niddordeb yn ystod y cyfnod clo ac wrth astudio’r cwrs celf TGAU a Lefel A. Byddaf yn defnyddio'r arian i brynu deunyddiau, gan fod defnyddiau celf yn mor ddrud! A byddaf hefyd yn ei ddefnyddio ar gyfer teithio i ddinasoedd i gasglu ysbrydoliaeth a syniadau ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol.”

Beirniad y gystadleuaeth oedd Anna Pritchard a Ffion Pritchard. Yn eu beirniadaeth, dywedodd y ddwy: “Roedd safon gwaith y gystadleuaeth yn uchel iawn a’r gwaith yn amrywiol. Dangosodd yr enillydd sgiliau aeddfed ac amrywiaeth yn ei gwaith gyda gwahanol gyfryngau. Mae’r gwaith yn creu elfen o sioc, yn destun sy’n gyfredol ac yn destun sgwrsio. Mae’r elfen 3D yn dod ag elfennau gwahanol i’r gwaith.”

16 mlwydd oed yw Nel Thomas, enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg. Mae hi’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Cymraeg Plasmawr, Caerdydd ac newydd sefyll ei arholiadau TGAU yn cynnwys Celf, Cerdd a Graffeg.

Meddai Nel: “Dwi wedi cystadlu sawl gwaith a chyflwyno gwaith 3D yn y gystadleuaeth Celf a Chrefft gyda fy efaill, Casi – ers i ni fod yn y Dosbarth Derbyn. Dwi wrth fy modd yn gwneud gwaith creadigol, yn astudio ac yn arlunio wynebau. Rwy’n mynd ati i greu darlun - o’m dychymyg yn aml ac yn mwynhau creu darnau du a gwyn gan ddefnyddio pensiliau graffit.

“Dwi’n gobeithio mynd ymlaen i astudio lefel A mewn Celf, Graffeg, Bioleg a Throseddeg. Yn y dyfodol rwyf yn ystyried gyrfa mewn Anthropoleg Fforensig, gyrfa ble gallaf ddefnyddio fy sgiliau arlunio hefyd.”

Noddwyd y Seremoni gan Gyngor Tref Rhuthun.