Beth yw Yr Awr Fwy?

Mae'r Awr Fwy yn gyfle i bobl ifanc oed 11+ ddod at ei gilydd mewn awyrgylch diogel dros Zoom gyda staff cyfeillgar yr Urdd i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog gyda ffrindiau hen a newydd.

Oes rhaid bod yn aelod o'r Urdd?

O fis Tachwedd, bydd sesiynau Awr Fwy ar gyfer aelodau'r Urdd yn unig. Mae croeso mawr i bawb nad ydyn nhw'n aelodau trwy sesiynau mis Medi a Hydref i roi blas i chi o'r sesiynau, ac i roi amser i chi benderfynu a ydych chi am ymuno fel aelod. Gallwch ymuno ar-lein yn hawdd yma.

Faint yw'r sesiynau?

Mae holl sesiynau Yr Awr Fwy am ddim i aelodau'r Urdd.

Calendr

Cofrestra ar unrhyw ddigwyddiad sydd o ddiddordeb i ti. Wedi i ti gofrestru, ar ddiwrnod y digwyddiad fe fyddi di'n derbyn linc a chyfrinair i gael mynediad!

Clwb Cerddoriaeth

Nos Iau olaf pob mis

5:00 - 6:00

Dewch i sgwrsio a gwrando ar ganeuon o bob math gyda pobl ifanc eraill!

Cofrestru