Mae Francesca, sy’n 23oed, yn brentis graddedig mewn Marchnata. Hi yw’r unig berson o’i theulu sy’n siarad Cymraeg, ac Eidaleg yw ei theulu i gyd.
Meddai: “Dwi’n falch iawn o fod yn Eidalwraig a Chymraes - dwy wlad brydferth! Mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd mewn sawl ffordd. Mae wedi agor drysau i mi i lyfrau newydd, cerddoriaeth newydd, gwleidyddiaeth newydd ac yn bwysicach, pobl newydd, pobl sy’n golygu’r byd i mi!”
Mae’n ennill ar ôl diwrnod o heriau yn ymwneud â’r gystadleuaeth, a osodwyd i brofi iaith, hyder a gwybodaeth y tri chystadleuydd terfynol. Roedd y rhain yn cynnwys gwneud cyfweliad byw gyda BBC Radio Cymru a siarad cyhoeddus mewn cynhadledd i’r wasg brysur o flaen newyddiadurwyr a chamerâu teledu.
Y ddau gystadleuydd arall a ddaeth i’r rownd derfynol oedd Molly Evans sy’n ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caer, yn astudio gradd mewn Ieithoedd Modern a Jack Wilson yn wreiddiol o Warrington, sy’n astudio Cemeg ym Mhrifysgol Bangor.
Nod Cystadleuaeth Medal y Dysgwyr yw gwobrwyo unigolyn sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod. Caiff ei dyfarnu i unigolyn sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd mewn coleg neu waith ac yn gymdeithasol yn ogystal â hyrwyddo ac annog y Gymraeg ymysg eraill.