Eisteddfod yr Urdd yn ymrwymo i wella hygyrchedd er mwyn sicrhau gŵyl i bawb

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y bydd Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl fwy hygyrch i gystadleuwyr ac ymwelwyr i’r dyfodol.

Yn sgil partneriaeth newydd gyda Disability Arts Cymru a chwmni theatr Taking Flight, mae’r Urdd am wella hygyrchedd a mynediad at ddigwyddiadau celfyddydol y Mudiad, gan gynnwys maes Eisteddfod yr Urdd – gŵyl sy’n denu 76,000 o gystadleuwyr yn flynyddol.

O ganlyniad, mae’r Urdd yn chwilio am aelodau ar gyfer Fforwm Hygyrchedd newydd, drwy gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Y gobaith yw denu unigolion 16-25 oed fyddai’n medru rhannu profiadau neu arbenigedd yn y maes anableddau a hygyrchedd i’r celfyddydau, i gydweithio â Threfnwyr Eisteddfod yr Urdd, cael profiad gwaith mewn trefnu digwyddiadau, a sicrhau bod maes a gweithgareddau’r ŵyl yn hygyrch a chynhwysol, ac yn adlewyrchu’r strategaeth ‘Urdd i Bawb’.

Fel man dechrau i’r bartneriaeth, derbyniodd staff adran Eisteddfod yr Urdd hyfforddiant mynediad a chynhwysiant anabledd gyda DAC, a byddant yn derbyn hyfforddiant BSL a chynhwysiant gan Taking Flight. Mewn cydweithrediad â'r partneriaid, bydd yr Urdd yn creu adnoddau a phecynnau gwybodaeth ar gyfer ymwelwyr dall a B/byddar. Bydd yr ŵyl hefyd yn gweithio’n agos gyda ‘Attitude is Everything’, sefydliad sy’n helpu gwella’r mynediad sydd gan bobl anabl i ddigwyddiadau cerddoriaeth byw.

Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd: “Fel rhan o’n partneriaeth gyda Disability Art Cymru a Taking Flight, rydym wedi ymrwymo i wella hygyrchedd a mynediad at ein digwyddiadau celfyddydol, sy’n cynnwys maes Eisteddfod yr Urdd.

“Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ac mae gwyliau celfyddydol yn haeddu cael eu mwynhau gan bawb. Yn ogystal â datblygu ac addasu maes yr Eisteddfod, rydym hefyd am sicrhau cyfleoedd i artistiaid anabl, B/byddar a niwroamrywiol i berfformio ac arwain yn ein darpariaeth gelfyddydol.

“Anogwn pawb sydd eisiau bod yn rhan o’r Fforwm Hygyrchedd i ymuno efo ni, ac edrychwn ymlaen at gydweithio er mwyn sicrhau fod cynnig celfyddydol yr Urdd yn parhau i esblygu a thyfu.”

Ychwanega Owain Gwilym, Cyfarwyddwr Gweithredol Disability Arts Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r bartneriaeth bwysig hon ac yn edrych ymlaen at weld un o sefydliadau a digwyddiadau diwylliannol pwysicaf Cymru gweithio gyda lleisiau ifanc anabl a/neu Fyddar i ddatblygu hygyrchedd a chynhwysiant.”

Meddai Steph Bailey-Scott, Rheolwr Mynediad, Cynhwysiant a Chyfranogiad Taking Flight: “Mae mynediad a chynhwysiant wrth wraidd popeth a wnawn yma yn Taking Flight, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r Urdd i sicrhau hygyrchedd eu Heisteddfod. Mae’n hanfodol i bobl ifanc, boed yn fyddar, yn anabl, yn niwroamrywiol neu’n anabl, ddechrau disgwyl mynediad fel y norm, cael blaenoriaeth, a chael y cyfle cyfartal hynny heb unrhyw rwystrau.”

Mae rhagor o wybodaeth am y Fforwm Hygyrchedd newydd ar gael ar wefan Eisteddfod yr Urdd, yn ogystal â ffurflen gais i unigolion 16-25 ei llenwi er mwyn bod yn rhan o’r Fforwm.

Maldwyn fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2024, a gynhelir rhwng 27 Mai a 1 Mehefin. Dyma fydd y tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Maldwyn ers 1988 a bydd wedi’i leoli ar gaeau Fferm Mathrafal, ger Meifod.