Y Goron yn mynd i Fro Morgannwg

Enillydd Coron Eisteddfod Caerdydd a’r Fro 2019 yw Brennig Davies, myfyfyriwr blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Rhydychen lle mae’n astudio Saesneg. 

Mae’n dod o Wenfô ym Mro Morgannwg ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg. Yr ysgol honno, yn ôl Brennig, sydd i ddiolch am ei awydd i geisio am y goron eleni. Meddai:

“Fe’m hysbrydolwyd i gystadlu am y Goron eleni oherwydd anogaeth yr Adran Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, yn enwedig Miss Heledd Lewis.

“Hwb arall oedd ennill y gystadleuaeth Rhyddiaith Blwyddyn 12 a 13 yn Eisteddfod yr Urdd llynedd, a’r teimlad o fod eisiau glynu at fy ngwreiddiau Cymreig er fy mod nawr yn byw hanner y flwyddyn yn Lloegr!

“Braint enfawr yw ennill y Goron eleni, yn enwedig gan fy mod yn aelod Tu Allan i Gymru am y tro cyntaf - gobeithiaf ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio, er mwyn byw ger y môr gyda nifer o gŵn, a pharhau i ‘sgwennu yn y Gymraeg ac yn y Saesneg.”

Dim ond 15 oedd Brennig pan enillodd y BBC Young Writers' Award oedd yn cael ei redeg gan

Radio 1 am ei stori ‘Skinning’. Roedd yn cystadlu eleni o dan y ffug-enw, Fleur De Taf.

Meddai’r beirniaid Guto Dafydd ac Elinor Gwyn bod i’r gwaith “syniad gwreiddiol, campus - dynes yn mabwysiadu llwynog. Mae sawl un yn y gystadleuaeth wedi ceisio darlunio dadfeiliad meddyliol cymeriad, ond neb cystal â hyn. Er mor abswrd yw’r syniad, mae empathi FLEUR DE TAF yn golygu bod y stori’n rhyfedd o gredadwy. Darlunia wraig sy’n gwybod bod yr hyn y mae’n ei wneud yn anghywir ac yn ddinistriol, ond sydd heb allu cydnabod hynny na’i hatal ei hun.

“Mae FLEUR DE TAF yn defnyddio barddoniaeth R Williams Parry’n ogleisiol... Mae mewn rheolaeth lwyr o’r plot bob amser; ac mae’n creu teimlad o dywyllwch swreal y byddem wrth ein bodd yn darllen mwy ohono.

“Roeddem yn synhwyro bod FLEUR DE TAF yn berson gyda digon o hyder yn ei syniad, a gallu strwythurol, i beidio â bod angen dangos ei gorchest. Roedd yn amlwg hefyd fod ganddi hi neu fo ddealltwriaeth soffistigedig o ffwlbri a ffaeleddau pobl.

“Rydym yn siomedig nad oes gennym dair coron i’w rhoi. Ar y brig, roedd hon yn gystadleuaeth wych. Bu penderfynu rhwng HELYG a FLEUR DE TAF, yn y pen draw, yn brofiad anodd. Aethom, yn y diwedd, am awdur sy’n ddigon hyderus ynddo’i hun i beidio â bod angen tân gwyllt geiriol. Aethom am un a’n hanesmwythodd. Aethom am aeddfedrwydd a’n gadawodd ni’n ysu am gael darllen mwy.”

Yn ail, roedd Megan Angharad Hunter, Aelwyd Dyffryn Nantlle ac yn drydydd Caryl Bryn Hughes, Aelwyd JMJ.

Cyflwynir Coron Eisteddfod Caerdydd a’r Fro 2019 eleni gan un o Lywyddion Anrhydeddus yr Ŵyl Gaenor Mai Jones o ardal Pontypridd. Noddir Seremoni’r Coroni gan Brifysgol Caerdydd.