Niferoedd uchaf erioed yn mynychu Eisteddfod yr Urdd 2022

Wedi hir ymaros, croesawyd miloedd o blant, pobl ifanc a theuluoedd drwy giatiau Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yr wythnos hon – ac i’r digwyddiad celfyddydol cenedlaethol mwyaf i ieuenctid Cymru ers cychwyn y pandemig. Roedd mynediad i’r ŵyl am ddim eleni, a gwelwyd 118,000 yn heidio i’r Maes.

Camodd miloedd o gystadleuwyr o bob cwr o Gymru ar lwyfannau tri o bafiliynau’r Eisteddfod wrth i’r Urdd gynnig ‘llwyfan i bawb’ am y tro cyntaf, arbrawf sydd, yn ôl trefnwyr yr ŵyl, wedi bod yn “llwyddiant ysgubol.”

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles a Llywodraeth Cymru am ei gwneud yn bosibl i ni gynnig mynediad am ddim i bawb i faes yr Eisteddfod eleni. Mae mynediad am ddim wedi arwain at ddenu mwy o ymwelwyr a chystadleuwyr o bob cwr o Gymru, a braf gweld gymaint o amrywiaeth ar faes yr ŵyl. Mae hi wir wedi bod yn Eisteddfod i bawb.”

Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Fel trefnwyr rydym ni’n falch fod yr arbrawf o gael tri phafiliwn yn hytrach na un, a chynnig llwyfan i bawb, wedi’i groesawu gan ein cystadleuwyr ac yn llwyddiant ysgubol. Byddwn yn parhau gyda’r datblygiad yma wrth drefnu Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2023.

“Mae sawl elfen newydd a chyffrous arall wedi eu cyflwyno ar Faes yr Eisteddfod eleni, ond fel unrhyw ŵyl gwerth ei halen, mi fydd yr Urdd yn asesu a gwerthuso pob datblygiad cyn penderfynu pa elfennau newydd eraill sy’n cael eu hymgorffori flwyddyn nesaf ac i’r dyfodol.

“Mae ein diolch yn fawr i’r holl athrawon, hyfforddwyr, rhieni a gofalwyr am weithio’n ddiflino wrth ddysgu, creu ac hyfforddi’r cystadleuwyr dros y misoedd diwethaf, a sicrhau safon a llwyddiant yr Eisteddfod arbennig hon. Hoffwn hefyd ddiolch i’n noddwyr a’n partneriaid am eu cefnogaeth ac wrth gwrs i’r holl staff a gwirfoddolwyr am eu gwaith di-baid.”

Cafwyd 185 o oriau o gynnwys o faes yr Eisteddfod ar draws llwyfannau S4C, ynghyd â chynnwys amrywiol drwy gydol yr wythnos ar BBC Radio Cymru, Radio Cymru 2 a BBC Cymru Fyw.

Datblygiad arall yn Eisteddfod yr Urdd eleni oedd Gŵyl Triban, sydd wedi ac yn parhau i fod yn llwyddiant mawr i drefnwyr yr ŵyl. Fel rhan o ddathliadau’r canmlwyddiant roedd arlwy Gŵyl Triban yn gyfle gwych i adlewyrchu cerddoriaeth gyfoes Cymraeg, ond hefyd yn gyfle i ddathlu perfformwyr a chaneuon y gorffennol, ac yn blethiad perffaith o’r hen a newydd. Roedd ardal Garddorfa dan ei sang gyda chynulleidfa’n chwerthin a mwynhau perfformiadau risqué a chaboledig Cabarela ar y nos Iau. Nos Wener, gwelwyd Tara Bandito yn cael ei hymuno ar lwyfan gan Eden, fel syrpreis i bawb, bu i Yws Gwynedd gloi’r noson gyda’r ffefryn Sebona Fi. Mae perfformwyr heno yn cynnwys N’Famady Koyuate, sy’n cael ei ddylanwadu gan Mandingue Affricanaidd, jazz gorllewin Ewrop, pop, indie a ffync. Fel rhan o arlwy nostalgia Gŵyl Triban, bydd Tecwyn Ifan a Dilwyn Siôn yn perfformio cyn i Adwaith ac Eden gloi’r noson.

Roedd teilyngdod ym mhob un o brif seremonïau’r Eisteddfod. Ar ddechrau’r wythnos cyhoeddwyd mai Shuchen Xie, 12 oed, o Gaerdydd oedd enillydd Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd 2022 - y person ieuangaf erioed i ennill Prif Wobr yr Urdd yn hanes yr Eisteddfod. Josh Osborne o Poole enillodd Medal y Dysgwyr ag Anna Ng o Gaerdydd oedd enillydd Medal Bobi Jones. Bu i Osian Wynn Davies o Lanfairpwll ennill y Fedal Ddrama, Ciarán Eynon o Landrillo-yn-rhos, Sir Conwy ennill y Gadair a choronwyd Twm Ebbsworth o Lanwnnen, Ceredigion fel Prifardd yr ŵyl.

Cyhoeddwyd heddiw enwau’r tri chystadleuydd lwcus fydd yn cael perfformio yng Ngŵyl Cymru Gogledd America yn Philadelphia fis Medi: Siriol Elin (Cylch Bro Aled, Conwy), Manon Ogwen Parry (Adran y Fro, Bro Morgannwg) a Tomos Gwyn Bohana (tu allan i Gymru). Y côr fydd yn cynrychioli’r Urdd fel côr swyddogol Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ym Mirmingham fis Awst fydd Côr Dyffryn Clwyd.

Mae panel o feirniad hefyd wedi dewis y chwe chystadleuydd mwyaf addawol o fewn y categori oedran hŷn o dan 25 oed, i ymgeisio am Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2022 yn yr hydref. Y chwech fydd yn cystadlu am yr Ysgoloriaeth eleni fydd: Fflur Davies (Cylch Arfon), Gwenno Morgan (Aelwyd Llundain), Ioan Williams (Adran Bro Taf), Mali Elwy (Adran Bro Aled), Owain Rowlands (Aelod Unigol Blaenau Tywi) a Rhydian Tiddy (Cylch Blaenau Tywi).

Mae’r Urdd yn falch o gyhoeddi mai Gwenan Mars-Lloyd (Sir Ddinbych) a Nansi Rhys Adams (Caerdydd a’r Fro) sy’n derbyn Ysgoloriaeth yr Eisteddfod eleni - ysgoloriaeth a wobrwyir i’r cystadleuwyr mwyaf addawol yn yr oedran blwyddyn 10 a dan 19 oed. Catrin Jones o Lanwnnen, Ceredigion oedd enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc Bl.10 a dan 25 oed (a roddir drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a’i deulu) a dyfarnwyd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg Bl.10 a dan 19 oed i Nel Thomas o Gaerdydd (rhoddir y Fedal gan Bapur Bro Y Bigwn).

Y flwyddyn nesaf, cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Gâr rhwng 29 Mai a 3 Mehefin 2023.