Athletau Cynradd Gogledd Cymru
Dyddiadau a lleoliadau
Eryri: 06/06/24 | Treborth | 9:30 - 15:00
Meirionnydd: 11/06/24 | Ar ôl oriau Ysgol
Ynys Môn: 13/06/24 | Treborth | 9:30 - 15:00
Dinbych: 18/06/24 | Ysgol Uwchradd Dinbych | 9:30 - 15:00
Conwy: 20/06/24 | Stadiwm CSM,Eirias | 9:30 - 15:00
Maldwyn: 27/06/24 | Trac Athletau Maldwyn | 9:30 - 15:00
Fflint a Wrecsam: 03/07/24 Trac Athletau Glannau Dyfrdwy | 9:30 - 15:00
Manylion y gystadleuaeth:
Bydd ysgolion yn cofrestru i gystadlu fel tîm yn y cystadlaethau. Bydd gwobrau unigol i safleoedd 1af, 2ail a 3ydd ym mhob camp yn ogystal â gwobr i’r tîm gorau.
Dylai bob tîm ysgol gynnwys dwy Ferch a dau Fachgen o flwyddyn 3, 4, 5 a 6 - Cyfanswm o 16 athletwr mewn tîm.
Rhaid dewis un Ferch ac un Bachgen ym mhob blwyddyn i redeg y ras 80m ac un Ferch ac un Bachgen ym mhob blwyddyn i redeg y ras 600m. Bydd pawb yn cystadlu yn y cystadlaethau neidio a thaflu.
Campau o fewn y gystadleuaeth
Rhedeg: 80m, 600m, Ras Gyfnewid
Taflu: Taflu Gwaywffon, Taflu Shot
Neidio: Naid hir
Cofrestru
Gall ysgolion gofrestru 2 tîm i gystadlu.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau plîs cysylltwch â ni; chwaraeon@urdd.org/ 01248 672 100