Beca Lyn Pirkis

Gweithdy: Bwyta'n Iach | Dydd Sadwrn 05 Mawrth 2022

Cogydd ac awdur yw Beca Lyne-Pirkis . Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei chyfresi teledu ar S4C, sef Parti Bwyd Beca a Becws, ond daeth i sylw'r byd ar ôl iddi ymddangos ar The Great British Bake Off. Ers dod i amlygrwydd fel cystadleuydd ar y gyfres honno yn 2013, mae Beca wedi dod yn enw a gwyneb cyfarwydd fel cogydd, awdur bwyd a chyflwynydd teledu. Yn 2017 cyhoeddodd ei llyfr ryseitiau poblogaidd 'Bwyd Beca / My Food' a’i ail-lyfr ‘Feeding My Army’ yn 2020 sydd yn llawn dop o ryseitiau sy'n ffefrynnau teuluol a fydd yn siŵr o ysbrydoli cogyddion ar draws Cymru. Ma Beca wrthi’n astudio i fod yn ddietegydd, ac yn ymuno â theulu FFIT Cymru eleni fel arbenigwr bwyd.

 

 

 

Partneriaid a Noddwyr