Dyddgu Hywel

Gweithdy: Iechyd a Lles

Mae Dyddgu Hywel yn uwch ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ond efallai y bydd rhai ohonoch yn ei adnabod fel chwaraewr rygbi i Gymru yn y crys rhif pymtheg.

Yn dilyn 8 mlynedd o chwarae yn y crys coch, yn y tîm pymtheg pob ochr, a'r tîm 7 pob ochr. Mae Dyddgu wedi ennill 31 o gapiau dros ei gwlad, wedi chwarae mewn sawl pencampwriaeth y 6 Gwlad, a dau dwrnamaint Cwpan Rygbi'r byd yn Ffrainc ac Iwerddon. Gorffennodd ei gyrfa rygbi mewn steil wrth iddi gael ei gwahodd i dîm y Barbariad, i chware yn erbyn Cymru yn y Stadiwm Principality diwedd 2019.

Mae Dyddgu yn 'ymarferydd iechyd meddwl a lles i-Act', yn addysgu a chyflwyno gweithdai yn y brifysgol a sefydliadau eraill, ac yn ysu i rannu syniadau a gweithgareddau llesiant gydag aelodau'r Urdd.

Partneriaid a Noddwyr