Sophie Davis

Gweithdy: Cyfryngau mewn chwaraeon

Sophie yw Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe ac yn arwain y ffordd ar gyfer genhedlaeth newydd o arweinwyr chwaraeon benywaidd. Dechreuodd ei thaith yn ystod brofiad gwaith yn 16 oed gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe a thrwy waith gwirfoddol am 4/5 mlynedd gyda Chlwb Pêl-droed Merched Abertawe a Chlwb Pêl-droed Abertawe nes iddi fod yn llwyddiannus wrth dderbyn rôl gyflogedig. Bu Sophie hefyd yn gweithio’r Gweilch ochr yn ochr â’i gradd Meistr.

Bydd Sophie yn trafod ei phrofiadau, ei llwybr gyrfa a’i rôl bresennol, yn ogystal â chyfryngau cymdeithasol mewn chwaraeon a datblygiad llwyfannau newydd wrth ddarparu enghreifftiau o’i gwaith gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Bydd hi hefyd yn archwilio’r newid yn y galw am gynnwys gwahanol.

Partneriaid a Noddwyr