Gweithdy
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi'r uchelgais, caniatâd a rhwymedigaeth gyfreithiol i wella ein llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd.
Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei wneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.
Dyma’r saith nod llesiant:
Cymru lewyrchus – pan fydd gan bawb swyddi a does dim tlodi
Cymru gydnerth – pan fyddwn yn barod ar gyfer digwyddiadau fel llifogydd
Cymru iachach – pan fydd pawb yn fwy iach ac yn gallu gweld meddyg pan fo angen
Cymru sy’n fwy cyfartal – pan fydd pawb yn cael cyfle cyfartal beth bynnag yw ei gefndir
Cymru o Gymunedau cydlynus – pan fydd Cymunedau’n gallu byw gyda’i gilydd yn hapus
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu – pan fydd llawer o gyfleoedd gyda ni i wneud pethau gwahanol a phan bydd llawer o bobl yn gallu siarad Cymraeg
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang – pan fyddwn yn gofalu am yr Amgylchedd ac yn meddwl am bobl eraill ledled y Byd.