Siaradwr Gwadd a Llysgennad #FelMerch| Dydd Sul 06 Mawrth 2022
Hi rwy'n Deryn ac rwy'n 16 mlwydd oed, rwy'n fyfyriwr yng ngholeg Merthyr ac yn Ysgol Uwchradd Pen-y-dre cyn hynny (Ysgol Uwchradd cyfrwng Saesneg arloesol ar gyfer dwyieithrwydd yng Nghymru o dan diwtoriaeth Mr Mark Morgan)
Rwy'n Llysgennad #FelMerch yn ogystal â Llysgennad Chwaraeon Cymru a Gwobrau Diana YST.
Rwy'n derbyn Gwobrau Diana a panelwr ar y panel beirniadu. Rwyf hefyd yn derbyn “High Sheriffs Mid-glam Award” a gwobr Athletwr Newydd Chwaraeon Cymru am fy nghamp o Jiwdo.
Fi yw Pencampwr jiwdo presennol y Gymanwlad 2019 (sef y fwyaf diweddar oherwydd Covid) yn yr Uwch adran -57kgs sydd â nam ar y golwg.
Roedd fy ngherdd "My Team Wales Commonwealth Games" yn gais buddugol ar gyfer Diwrnod y Gymanwlad ac rwyf hefyd yn ymddangos yn ymgyrch fideo Tîm y Gymanwlad Cymru 2022.
Mae gen i amrywiaeth o deitlau arall ac rydw i wedi ffilmio ar gyfer S4C CIC BOOM Cymru a Chwaraeon Cymru.
Rwy'n mwynhau dringo creigiau dan do, codi arian ac anrhegion ar gyfer achosion elusennol. Gwirfoddoli gyda'r Urdd (Rwyf wedi bod yn aelod ers roeddwn yn 4 mlwydd oed) yn ogystal â chystadlu yn yr Eisteddfodau. Rwyf hefyd yn gwirfoddoli yn y coleg ac yn “Rock Summit UK”.