Elinor Snowsill

Siaradwr Gwadd a Llysgennad Cenedlaethol #FelMerch| Dydd Sul 05 Mawrth 2022

Chwaraewraig Undeb Rygbi Cymru yw Elinor Snowsill. Mae hi'n chwarae'r maswr i Bristol Bears ac i Gymru. Mae hi'n un o 12 chwaraewr menywod yn Rygbi sydd wedi creu hanes yn ddiweddar trwy ddod yn chwaraewyr rygbi merched proffesiynol cyntaf Cymru. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i dîm undeb rygbi cenedlaethol menywod Cymru yn 2009.

Mae Elinor yn Llysgennad Cenedlaethol #FelMerch, mae’n angerddol iawn ein bod ni’n sicrhau bod gan ferched yr un cyfleoedd a bechgyn, a bod ni’n gwneud y llwybr i aros mewn chwaraeon mor hawdd â phosib iddynt. Mae prosiect #FelMerch yn bwysig iddi oherwydd mae’n credu bod gymaint o rwystrau yn atal merched rhag cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae'n adnabyddus am ei geiriau dewr a doeth ynglŷn â chydraddoldeb mewn chwaraeon ar Twitter gan ddefnyddio #icare, hashnod sydd bellach wedi'i rannu gan nifer o enwau mwyaf y gamp.

 

Partneriaid a Noddwyr