Gwennan Harries

Siaradwr Gwadd | Dydd Sul 06 Mawrth 2022

Sylwebydd a cyn chwaraewr pêl-droed o Gymraes yw Gwennan Harries. Chwaraeodd ddau gyfnod gyda chlwb FA WSL Academi Bryste, wedi'i rannu â thri thymor i ffwrdd yn chwarae i Everton. Cafodd ei geni ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac enillodd 56 cap i dîm pêl-droed cenedlaethol menywod Cymru, gan sgorio 18 gôl. Yn anffodus gorfodwyd i Gwennan ymddeol fel chwaraewr pêl-droed o ganlyniad i anaf hir-dymor i'w phen-glin. Mae hi wedi'i chymhwyso fel athrawes ac yn athrawes Addysg Gorfforol yn Ysgol Gyfun Glantaf yn ogystal â sylwebydd chwaraeon rhan-amser i S4C a'r BBC.

Partneriaid a Noddwyr