Siaradwr Gwadd | Dydd Sadwrn 05 Mawrth 2022
Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd. Arbenigwr ar ddatganoli, gwleidyddiaeth ac etholiadau Cymru, polisi ac arweinyddiaeth gyhoeddus, rhyw, cynrychiolaeth a ffeministiaeth gwleidyddiaeth.
Cyn Gadeirydd Chwaraeon Cymru ac aelod o fwrdd “UK Sport”. Cyfarwyddwr Presennol Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Menywod UEFA ac aelod o weithgor strategaeth menywod UEFA. Cyn-chwaraewr a chapten rhyngwladol Cymru gyda 24 o gapiau. Cadeirydd Neuadd Chwaraeon Cymru.
Cadeirydd Panel Arbenigol y Cynulliad Cenedlaethol ar Ddiwygio Etholiadol, 2017. Cyn aelod o Fwrdd Taliadau'r Cynulliad, Panel Annibynnol ar Gyflogau a Chymorth ACau, Comisiwn Richard ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Colofnydd y Western Mail/Wales Online a sylwebydd y cyfryngau ar wleidyddiaeth, etholiadau a chwaraeon. Ymddiriedolwr Bwrdd y Sefydliad Materion Cymreig. Cyfarwyddwr anweithredol Goodson Thomas Executive Search.
Graddau a chymrodoriaethau er anrhydedd o brifysgolion Bangor, Caerdydd, Met Caerdydd, Abertawe, Abertawe Y Drindod Dewi Sant, De Cymru.
Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Dyfarnwyd CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, 2016.