Ydych chi’n teimlo’n reddfol am natur? Oes gyda chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa o fewn y sector cynaliadwyedd a Chadwraeth?

Dyma gyfle euraidd i chi cael profiad ar agweddau gwahanol o’r sector gan gynnwys clywed oddi wrth gyflogwyr o sefydliadau amddiffyn natur.

Mae cwrs preswyl yma ar gyfer unigolion sy’n ystyried dilyn llwybr gyrfa o fewn y sector cadwraeth natur a chynaliadwyedd ac eisiau blas ar beth all y sector gynnig. Cynigir y cwrs hwn mewn partneriaeth â WWF Cymru.

Yn ystod eich cwrs preswyl 3 diwrnod byddwch yn cyfle i wneud y canlynol:

  • Profi ein sesiynau cynefin- Dysgu beth sy’n gwneud cynefinoedd y Mynydd, Coedwig ac arfordir yn unigryw a sut mae sefydliadau yn gweithredu i amddiffyn/cyfoethogi rhain i hybu bioamrywiaeth nhw.
  • Clywed cyngor o cyflogwyr y sector amgylcheddol ar llwybrau bosibl o fewn y byd gwaith Amgylcheddol a sut i gynyddu eich tebygolrwydd o fod yn llwyddiannus yn y sector.
  • Derbyn blas ar agweddau o gadwraeth ymarferol- amrywiaeth o arolygon natur, tracio rhywogaethau penodol megis mamaliaid bychain, hybu cynefinoedd adar ac adnabod rhywogaethau.

Ar gyfer pwy?

Pobl ifanc blwyddyn 12 a 13 (16-18 oed)

Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?

13 Awst 2024

Pa mor hir mae'n para?

2 noson

Pris

£25 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.