18 mis ers cyflwyno’r cyfansoddiadau, cyhoeddwyd mai Ioan Wynne Rees o Gyffylliog, Rhuthun yw enillydd Medal Gyfansoddi Eisteddfod yr Urdd 2020-21 - a chyfansoddiad arall ganddo ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth.
3ydd: Gwydion Powel Rhys
Wyneb cyfarwydd i lwyfan Eisteddfod yr Urdd ddaeth yn drydedd yn y gystadleuaeth, sef Gwydion Powel Rhys. Yn wreiddiol o Rachub, Dyffryn Ogwen, mae Gwydion bellach yn ei flwyddyn gyntaf yn astudio Cyfansoddi yng Ngholeg Cerdd Frenhinol Llundain.