Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Pryd cynhelir Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022?

Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 yn ystod wythnos hanner tymor y Sulgwyn.

Cystadlaethau llwyfan 2022

Beth fydd testunau llwyfan Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022?

Bydd yr holl destunau ar gyfer y cystadlaethau llwyfan Sir Ddinbych 2020 yn aros yr un fath ar gyfer 2022.

Bydd copi o’r rhestr testunau diwygiedig ar gael ar wefan yr Eisteddfod yn ystod Tymor yr Hydref 2021. 

Pwy fydd yn beirniadu yn y Genedlaethol?

Yn yr un modd a’r testunau llwyfan, bydd beirniaid 2020 yn symud ymlaen i 2022.

Bydd beirniaid Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth yn cael eu dewis gan bwyllgorau Cylch a Rhanbarth.

Cystadlaethau gwaith cartref 2022

Dwi wedi cyflwyno fy ngwaith erbyn y 1af o Fawrth 2020. Ydi'r gwaith wedi cael ei feirniadu?

 Mae'r gwaith cartref a dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau eisoes wedi ei feirniadu a byddwn yn cyhoeddi'r canlyniadau yn ystod digwyddiad arbennig yn nhymor yr Hydref 2021. Mwy o fanylion i ddilyn yn ystod haf yn 2021.

A fydd y gwaith buddugol yn cael ei gyhoeddi yn y Cyfansoddiadau?

Ni fyddwn yn cyhoeddi Cyfansoddiadau o enillwyr y categori gwaith cartref yn 2020 ond bydd posibl gweld y canlyniadau ar-lein unwaith mae'r cyhoeddiad wedi ei wneud. Mwy o fanylion i ddilyn dros haf 2021.

A fydd testunau gwaith cartref newydd ar gyfer 2022?

Bydd testunau gwaith cartref newydd yn cael eu dewis ar gyfer 2022.

Bydd copi o’r rhestr testunau diwygiedig ar gael ar wefan yr Eisteddfod.

Pwy fydd yn beirniadu gwaith cartref yn 2022?

Yn yr un modd a’r beirniaid llwyfan, bydd beirniaid 2020 yn cael eu gwahodd i feirniadu yn 2022.

Cystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg 2022

Fydd gwaith Celf, Dylunio a Thechnoleg yn cael ei feirniadu yn 2021?

Yn anffodus, ni fu’n bosib i ni gwblhau holl rowndiau Cylch/Rhanbarth yn 2020 felly rydym wedi symud y cyfan ymlaen i 2022.

Bydd y testun ‘Môr a Mynydd’ ar gyfer yr adran Cynradd yn parhau fel testun ar gyfer yr adran CDT yn 2022 gyda phopeth Uwchradd â hyn yn Agored.

A fyddai’n gallu cyflwyno’r un gwaith ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022?

Byddi. Os wyt yn parhau yn yr un categori oedran, bydd croeso i ti gyflwyno’r gwaith a grëwyd ar gyfer Eisteddfod 2020 yn 2022.

A’i yr un beirniaid fydd yn beirniadu yn 2022?

Yn yr un modd a’r testunau llwyfan, bydd beirniaid CDT 2020 yn symud ymlaen i 2022.

Bydd beirniaid Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth yn cael eu dewis gan bwyllgorau Cylch a Rhanbarth.

Tocynnau 2022

Dwi wedi archebu tocynnau ar gyfer un o sioeau Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020. Beth yw’r opsiynau?

Gan eich bod eisoes wedi archebu tocynnau, bydd angen ichi ystyried yr opsiynau canlynol a chysylltu gyda adran yr Eisteddfod: 

Opsiwn 1: Eich bod yn cadw’r tocyn, a’ch sedd ar gyfer 2022. Os mai dyma a ddymunir, does dim i wneud nawr.  Byddwn yn cadarnhau trefniadau 2022 cyn gynted â phosib.

Opsiwn 2: Gofyn am ad-daliad. Byddwn yn ad-dalu drwy BACS ac os mai dyma a ddymunir, cliciwch ar y blwch coch isod, ‘Opsiwn 2’. Cwblhewch y ffurflen a’i ddanfon at eisteddfod@urdd.org.  

Gall yr ad-daliad gymryd hyd at 4 wythnos i'w brosesu.

Opsiwn 3. Os nad ydych yn dymuno cadw eich tocyn a'ch sedd ar gyfer 2022 ond eich bod yn dymuno bod pris y tocynnau yn mynd fel cyfraniad at goffrau Eisteddfod yr Urdd, cliciwch ar y blwch melyn isod, ‘Opsiwn 3’. Cwblhewch eich manylion a’i ddanfon at eisteddfod@urdd.org.

Opsiwn 2 Opsiwn 3

Mae fy mhlentyn yn rhan o sioe gynradd yr Eisteddfod.

Bydd y sioe ‘Penawdau’ yn cael ei pherfformio yn ystod wythnos Eisteddfod Sir Ddinbych 2022.

Byddwn yn gwahodd y cast gwreiddiol i gymryd rhan yn y cynhyrchiad yn 2022 a bydd yr ymarferion yn ail ddechrau yn nhymor y Gwanwyn 2022.

Mae fy mhlentyn yn rhan o sioe uwchradd yr Eisteddfod

Bydd y sioe ‘Dan y Fawd’ yn cael ei pherfformio fel rhan o ddathliadau Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 gyda’r dyddiadau i’w cadarnhau. Byddwn yn gwahodd y cast gwreiddiol i gymryd rhan yn y cynhyrchiad yn 2022 a bydd yr ymarferion yn ail ddechrau yn nhymor y Gwanwyn 2022.

Nawdd ar gyfer 2022

Dwi wedi noddi Eisteddfod yr Urdd 2020? Beth sydd am ddigwydd i’r pecyn hwnnw?

Byddwn yn cynnig pecynnau nawdd yn 2022 a byddwn yn trafod yn uniongyrchol gyda’r holl noddwyr a phartneriaid allanol.

Dwi wedi noddi cystadleuaeth yn Rhestr Testunau 2020?

Bydd nawdd y cystadlaethau yn cael ei symud i Restr Testunau 2022.

Mae gen i hysbyseb yn y rhaglen swyddogol – a fydd yr hysbyseb yma’n ymddangos yn 2022?

Bydd eich hysbyseb yn cael ei gyhoeddi yn rhaglen swyddogol Sir Ddinbych 2022. Bydd modd addasu’r cynnwys os yw’n cyfeirio at ddyddiadau neu gynigion oedd yn benodol ar gyfer 2020.

Y Maes yn 2022

Dwi wedi archebu stondin ar y maes – beth fydd yn digwydd i’r cais?

Bydd pecyn stondinwyr a phrisiau newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer 2022. Felly os ydych eisoes wedi cwblhau ffurflen gais ar gyfer 2020, gofynnir i stondinwyr gyflwyno cais newydd er mwyn sicrhau eich lle yn 2022.

Bydd unrhyw flaendal a dderbyniwyd yn cael ei gadw ar gyfer 2022.

Os hoffech drafod unrhyw fater yn ymwneud a’ch stondin, e-bostiwch eisteddfod@urdd.org os gwelwch yn dda.

Dwi wedi archebu safle carafán ar gyfer Eisteddfod 2020 – beth sydd yn digwydd i’r archeb yma?

Bydd pecyn Carafanwyr a phrisiau newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer 2022. Os ydych eisoes wedi cwblhau ffurflen gais ar gyfer 2020, gofynnir ichi gyflwyno cais newydd er mwyn sicrhau eich lle yn 2022.

Bydd unrhyw daliad a dderbynwyd eisoes yn cael ei gadw ar gyfer 2022.

Os hoffech drafod unrhyw fater yn ymwneud a’ch cais e-bostiwch eisteddfod@urdd.org.

Gweithgarwch lleol yn Sir Ddinbych

Dwi’n aelod o bwyllgor apêl lleol yn Sir Ddinbych – beth sydd yn digwydd i’r arian rydym eisoes wedi codi ar gyfer yr Eisteddfod?

Bydd yr arian sydd eisoes wedi’i gasglu yn lleol yn cael ei gadw a’i fuddsoddi yn Eisteddfod Sir Ddinbych 2022.

A gawn ni barhau i godi arian tuag at yr Eisteddfod Sir Ddinbych 2022?

Cewch! Mae croeso i Bwyllgorau Apêl barhau i godi arian hyd yn oed os ydynt wedi cyrraedd eu targed ariannol.

Mae fy mhlentyn yn rhan o sioe gynradd yr Eisteddfod.

Bydd y sioe ‘Penawdau’ yn cael ei pherfformio yn ystod Eisteddfod Sir Ddinbych 2022. Byddwn yn gwahodd y cast gwreiddiol i gymryd rhan yn y cynhyrchiad y flwyddyn nesaf a bydd yr ymarferion yn ail ddechrau yn nhymor y Gwanwyn 2022.

Mae fy mhlentyn yn rhan o sioe uwchradd yr Eisteddfod

Bydd y sioe ‘Dan y Fawd’ yn cael ei pherfformio fel rhan o ddathliadau Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 gyda’r dyddiadau i’w cadarnhau. Byddwn yn gwahodd y cast gwreiddiol i gymryd rhan yn y cynhyrchiad yn 2022 a bydd yr ymarferion yn ail ddechrau yn nhymor y Gwanwyn 2022.

Dwi’n parhau yn awyddus i stiwardio yn yr Eisteddfod yn 2022

Gwych! Byddwn yn cadw manylion yr holl geisiadau i stiwardio ac yn cysylltu yn nhymor y Gwanwyn 2022 gyda manylion pellach.

Pryd fydd y Pwyllgor Gwaith yn cwrdd nesaf?

Mi fyddwn mewn cysylltiad gydag aelodau Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 er mwyn trefnu cyfarfod yn ddigidol yn gynnar yn 2021.

Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023

Beth yw dyddiadau newydd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023?

Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin rhwng 29 Mai - 3 Mehefin 2023.

Pryd fydd Rhestr Testunau Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 yn barod?

Bydd Rhestr Testunau Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 yn cael ei gyhoeddi ar-lein erbyn mis Mai 2022.

Oes cyfle i rhoi tlws neu wobr ar gyfer cystadleuaeth yn 2023?

Mae croeso i unigolion / fudiadau / cymdeithasau / corau ayyb rhoi tlws neu wobr ar gyfer cystadlaethau llwyfan, gwaith cartref ac adran CDT fel yr arfer drwy e-bostio nesta@urdd.org

Pryd fydd Pwyllgor Gwaith a Phwyllgorau Testun yn cwrdd nesaf?

Mi fyddwn mewn cysylltiad gydag aelodau Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerdyrddin 2023 a'r Pwyllgorau Testun er mwyn trefnu dyddiadau cyfarfod yn ddigidol, yn gynnar yn 2021.

Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024

Beth yw dyddiadau newydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024?

Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 rhwng 27 Mai a 1 Mehefin.

Pryd fydd y Pwyllgor Gwaith a Phwyllgorau Testun yn cwrdd nesaf?

Mi fyddwn mewn cysylltiad gydag aelodau Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 a'r Pwyllgorau Testun er mwyn trefnu dyddiadau cyfarfodydd digidol, yn gynnar yn 2021.

Sut fedra’i gefnogi’r Eisteddfod?

Gellir cefnogi Eisteddfod yr Urdd Maldwyn mewn sawl ffordd. Drwy ymuno â phwyllgor testun, arwain neu gefnogi pwyllgorau apêl lleol neu gellir noddi tlws ar gyfer un o gystadlaethau'r Eisteddfod.