Awduron Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd 2017-19

Mae’n bleser gan adran Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau a Chwmni Theatr Bara Caws gyhoeddi mai awduron sioe nesaf Cwmni Theatr yr Urdd yw Sara Anest, Elan Grug Muse a Mared Llywelyn Williams. Dyma ychydig o gefndir y tair...

Merch ffarm o ardal y Sarnau, ger Y Bala yw Sara Jones. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol y Berwyn a Phrifysgol Caerdydd. Er mai Cymraeg oedd ei phwnc gradd, drama yw ei chariad pennaf, ac mae’r ffaith iddi gipio Gwobr Goffa Richard Burton ac Ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017, yn dyst o hynny.

Daw Elan Grug Muse yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, ond mae hi ar hyn o bryd yn gweithio ar ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe, ym maes llenyddiaeth deithio Cymraeg, a hynny o dan nawdd Canolfan Hyfforddiant Doethurol ym maes Ieithoedd Celtaidd yr AHRC. Mae hi’n gyd-olygydd cylchgrawn llenyddol Y Stamp, wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth yn 2017, a hi enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2013.

O Forfa Nefyn, Llŷn y daw Mared Llywelyn Williams, ac mae ar hyn o bryd yn gweithio i Wasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd yn Nefyn ac yn teithio o amgylch ysgolion. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Theatr, cyn mynd ymlaen i gwblhau gradd meistr ysgrifennu creadigol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.  Mae’n un o gyd-sylfaenwyr  Cwmni Drama Tebot a bu iddi gipio Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd yn 2017.

Bydd y dair yn cyd ysgrifennu’r cynhyrchiad newydd o dan ofal Dr Manon Williams, Prifysgol Bangor, a byddwn yn hysbysebu ar gyfer perfformwyr a thîm cefn llwyfan yn ystod haf 2018.