Mimosa - Theatr Patagonia

Prosiect celfyddydol ar y cyd rhwng yr Urdd, Clwyd Theatr Cymru a Mentrau Iaith Cymru a deithiwyd yng Nghymru a Phatagonia, haf 2015!

Fel rhan o ddathliadau 150 o flynyddoedd ers i’r Cymry cyntaf ymfudo i Batagonia, penderfynodd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd gydweithio gyda Clwyd Theatr Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Mentrau Iaith Cymru, Menter Patagonia a Theithiau Tango i greu cynhyrchiad arbennig iawn.

Penderfynwyd gwahodd 15 o aelodau’r Urdd yng Nghymru a phump o Batagonia i berfformio cynhyrchiad a fyddai’n portreadu’r siwrne i Batagonia ar y Mimosa yn 1865. Byddai’r perfformiad yn cael ei lwyfannu yng Nghymru ac ym Mhatagonia

Yn ôl Siân Rogers, Cyfarwyddwr Ieuenctid a Chymuned yr Urdd: “Y bwriad ydi cynhyrchu sioe gerdd theatrig gyda phobl ifanc o Gymru a Phatagonia, gan ailadrodd straeon y teuluoedd a adawodd eu cartrefi yng Nghymru i gychwyn ar siwrnai anodd a pheryglus i sefydlu bywyd newydd iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd ym Mhatagonia.”

Penderfynwyd creu darn o theatr yn seiliedig ar gynyrchiadau hynod lwyddiannus y cyfarwyddwr a’r awdur llwyddiannus Tim Baker o “The Spirit of the Mimosa” a “Patagonia - Yr Hirdaith/The Long Journey.”

Y cyfarwyddwr oedd Tim Baker a Dyfan Jones yn gyfarwyddwr cerdd.