Beth yw Yr Awr Fawr (D)?
Mae'r Awr Fawr (D) yn gyfle i ddysgwyr a siaradwyr ail-iaith oed cynradd ddod at ei gilydd i ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch hwyliog a diogel tu allan ir dosbarth. Bydd staff cyfeillgar yr Urdd yn croesawu plant i'r sesiynau ar Zoom am awr o weithgaredd hwyl gyda ffrindiau hen a newydd!
Oes rhaid bod yn aelod o'r Urdd?
O fis Hydref, bydd sesiynau Awr Fawr ar gyfer aelodau'r Urdd yn unig. Mae croeso mawr i bawb nad ydyn nhw'n aelodau trwy sesiynau mis Medi i roi blas i chi o'r sesiynau, ac i roi amser i chi benderfynu a ydych chi am ymuno fel aelod. Gallwch ymuno ar-lein yn hawdd yma.
Faint yw'r sesiynau?
Mae holl sesiynau Yr Awr Fawr am ddim i aelodau'r Urdd.
Calendr
Cofrestra ar unrhyw ddigwyddiad sydd o ddiddordeb i ti. Wedi i ti gofrestru, ar ddiwrnod y digwyddiad fe fyddi di'n derbyn linc a chyfrinair i gael mynediad!


Cwis yr Awr Fawr :D
Dydd Llun, 12 Ebrill 2021
4.30 - 5.30yp
Ymunwch a ni am cwis i ddysgwyr
Cofrestru
Sesiwn Clocsio
Nos Lun
19 Ebrill 2021
4:30 - 5:30y.p
Dewch i symud eich traed a dysgu sgil newydd yn ein sesiwn Clocsio gyda Geth!
Cofrestru
Coginio
Nos Lun
26 Ebrill 2021
4:30 - 5:30y.p.
Dewch i goginio danteithion blasus i rhannu gyda pawb yn y ty!
Cofrestru


Baneri Eisteddfod T
Nos Lun
17 Mai 2021
4:30 - 5:30y.p
Mae Eisteddfod T yn agosau, ymuna gyda ni i greu baneri lliwgar!
Cofrestru

Parti Eisteddfod T
Nos Lun
24 Mai 2021
4:30 -5:30y.p
Ymuna gyda ni am barti i ddathlu Eisteddfod T 2021!
Cofrestru