Mae'r Urdd yn chwilio am aelodau 18-25 oed i eistedd ar bob un o’n byrddau

Bydd holl aelodau 18-25 oed y byrddau yn cwrdd yn genedlaethol yn ôl y galw, ac yn cael eu mentora a’u cefnogi gan yr adrannau unigol, cadeirydd ac aelodau’r bwrdd a staff gwasanaethau canolog yr Urdd.

Croesawn geisiadau gan unigolion sydd am gyfrannu at waith yr Urdd ac ennill profiad a sgiliau bydd o fudd iddynt ar gychwyn eu gyrfa. Nid yw profiad a gwybodaeth arbenigol yn hanfodol ar gyfer y rôl yma a byddwn yn croesawu ceisiadau ar sail y sgiliau allweddol isod:

• Dealltwriaeth o ac ymrwymiad i nod Urdd Gobaith Cymru
• Deall a gwerthfawrogi effaith darpariaeth yr Urdd ym mywydau plant a phobl ifanc
• Parodrwydd i ofyn y cwestiynau “beth os” a “beth nesaf”
• Dangos parch a chwrteisi tuag at aelodau eraill y Bwrdd, staff a gwirfoddolwyr
• Sgiliau cyfathrebu effeithiol yn y Gymraeg
• Parodrwydd i fynegi barn a chroesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd ac i ystyried atebion creadigol er mwyn gwella cynnig yr Urdd

Cliciwch ar y bwrdd perthnasol am wybodaeth pellach:

 

Bwrdd Adnoddau Dynol

Dysgu mwy
 

Bwrdd Busnes

Dysgu mwy
 

Bwrdd Chwaraeon a Phrentisiaethau

Dysgu mwy
 

Bwrdd Eisteddfod a'r Celfyddydau

Dysgu mwy
 

Bwrdd Gwersylloedd

Dysgu mwy