Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Sir Gaerfyrddin 2023 

I ddathlu bod Eisteddfod yr Urdd 2023 yn dod i Sir Gâr, cafodd yr Ŵyl Gyhoeddi ei chynnal yn nhref Caerfyrddin a Llanymddyfri ar y 17eg a 24ain o Fedi eleni.

Roedd hi’n wythnos llawn cyffro, ac roedd hi mor braf i weld yr ysgolion lleol yn eu coch, gwyn a gwyrdd wrth iddyn nhw orymdeithio trwy’r trefi gyda’u baneri!

Gydag adloniant diri, o fandiau lleol i griw Cyw, stondinau bwyd, gigs ac wrth gwrs Mistar Urdd ei hun, roedd hi’n wythnos i’w chofio!

Diolch i bawb ymunodd â ni, ac i’r rheiny oedd yn rhan o drefnu’r Ŵyl. Diolch yn fawr hefyd i gyfreithwyr JCP am noddi’r digwyddiad.

Rydym ni mor gyffrous i’ch gweld chi eto yn yr Eisteddfod!