Meithrin Talent: Talent Meithrin

Dyddiad Cau: 31 Rhagfyr 2018
Cofiwch fod rhaid ymaelodi gyda'r Urdd cyn cystadlu!

ffurflen gais i'w chwblhau (word) ffurflen gais i'w chwblhau (pdf) ymaelodi gyda'r urdd

 

405. Meithrin Talent: Talent Meithrin

 
Nod y gystadleuaeth sy’n agored i aelodau o’r Urdd rhwng 18 a 24 oed ydy dod o hyd i dalent newydd sydd â’r ddawn a'r talent i ddiddanu plant ifanc rhwng 2–4 oed a’u rhieni. Gwahoddir y cystadleuwyr i lenwi ac anfon ffurflen gais, sydd yn nodi rhif aelodaeth yr Urdd, ynghyd ag;
 
  • amlinelliad o unrhyw brofiad perthnasol
  • clip fideo 5 munud o hyd yn sôn ychydig am eu hunain yn arddangos eu dawn perfformio drwy stori, cân neu ddawns
Mae’r meini prawf yn seiliedig a’r brofiad yr unigolyn o berfformio o flaen cynulleidfa, a’r gallu i ganu ac actio.
 
Y Broses Feirniadu
 
  1. Bydd panel o feirniaid yn cael eu penodi i gynnwys cynrychiolydd o’r Urdd, Mudiad Meithrin a pherfformiwr profiadol.
  2. Rhestr Fer – Bydd clyweliadau yn cael eu cynnal i’r sawl sy’n cyrraedd y rhestr fer yn swyddfa’r Mudiad Meithrin, Aberystwyth ar ddyddiad penodol ym mis Chwefror 2019. Bydd gofyn i’r cystadleuwyr baratoi Sioe fer (hyd at 10 munud o hyd) i’w berfformio o flaen criw o blant oed meithrin.
  3. Bydd hefyd gwahoddiad i ddiwrnod hyfforddiant/mentora yng Nglan-llyn yng nghwmni mentoriaid profiadol.
  4. Y Gystadleuaeth. Bydd y panel beirniadu yn gwahodd y sawl sydd ar y rhestr fer i berfformio mewn lleoliadau amrywiol ar faes Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2019 (e.e. uned Mudiad Meithrin ac S4C, y llwyfan perfformio ar y Maes). Bydd y beirniaid yn beirniadu ar sail safon eu perfformiad a’u dealltwriaeth o anghenion y gynulleidfa (h.y.rhieni a phlant ifanc 2- 4 oed).
  5. Enillydd – Cyhoeddir enw’r enillydd ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Caerdydd a’r Fro 2019
  6. Gwobr – Bydd gwobr ariannol o £500 i'r enillydd. Fel rhan o’r wobr hefyd bydd yr enillydd yn perfformio un sioe ar un o’r dyddiau Taith Gŵyl Dewin a Doti 2019. (dyddiad i’w bennu)

Dylid anfon ceisiadau at Swyddfa Eisteddfod yr Urdd erbyn Rhagfyr 31 2018 naillai drwy'r post neu ar ffurf electroneg. Os hoffech ffurflen gais pdf i'w llenwi yna e-bostiwch eisteddfod@urdd.org am gopi.

Mewn partneriaeth gyda'r Mudiad Meithrin
Mewn partneriaeth gyda'r Mudiad Meithrin