Cerdd Dant

Dyddiad Cau: Dyddiad cau eich Rhanbarth
Cofiwch fod rhaid ymaelodi gyda'r Urdd cyn cystadlu!

Rheolau Cerdd Dant

Cystadleuaeth Parti / Côr: Penderfynwyd peidio nodi deulais/deusain, ond yn hytrach Parti/Côr yn unig – ar wahân i pan y nodir Parti Unsain. Golyga hyn bod rhyddid i’r gosodwyr/hyfforddwyr ddefnyddio cyfuniad o unsain, deulais, trillais ayb. fel y mynnant yn ôl eu gweledigaeth.

75. Unawd Cerdd Dant Bl.2 ac iau

Chwilio Heb ei Chael Hi, Ceri Wyn Jones

Copi ar gael o Adran yr Eisteddfod, Glan-llyn

Cainc: Bod Erw, Ceinwen Roberts (122)

Ceinciau Bro Delyn, Clwyd Music

 

76. Unawd Cerdd Dant Bl.3 a 4

Cadw-Mi-Gei, Tudur Dylan Jones

Byd Llawn Hud, Gwasg Gomer

Cainc: Pen Dinas, Elsbeth M Jones (122)

Tannau Teifi, Elsbeth M Jones

 

77. Unawd Cerdd Dant Bl.5 a 6

Dychymyg, Lis Jones

Byw a Bod yn y Bath, Gwasg Carreg Gwalch

Cainc: Tannau Tawe, Elfair Jones (122)

Alaw Tawe, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru

 

78. Deuawd Cerdd Dant Bl.6 ac iau

Seren Wib, Myrddin ap Dafydd

Armadilo ar fy Mhen, Gwasg Carreg Gwalch

Cainc: Rhiannon, Menai Williams (122)

Ceinciau’r Dyffryn a Mwy, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru

 

79. Parti Cerdd Dant (Unsain) Bl.6 ac iau (YC), Dim mwy na 12 mewn nifer

Casglu Mwyar, Mererid Hopwood

Ar Hyd y Flwyddyn, Gwasg Gomer

Cainc: Dyffryn Cân, Elfair Jones (1122)

Ceinciau’r Allwedd 1, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru

 

80. Parti Cerdd Dant (Unsain) Bl.6 ac iau (D), Dim mwy na 12 mewn nifer

Noson Calan Gaeaf, Dorothy Jones

Ych! Maen Nhw’n Neis, Gwasg Carreg Gwalch

Cainc: Stelc II, Bethan Bryn (122)

Stelcian, Cyhoeddiadau Curiad

Gweler rheolau cystadlu’r dysgwyr ar dudalen 9

 

81. Côr Cerdd Dant Bl.6 ac iau (YC/Ad), Dim mwy na 30 mewn nifer

Un Blaned Gron, Robin Llwyd ab Owain

Cliciwch yma am gopi gan Adran yr Eisteddfod, Glan-llyn

Cainc: Manhyfryd, Gwennant Pyrs (1122)

Nudd Gwyn a Cheinciau Eraill, Cyhoeddiadau Curiad

 

82. Parti Cerdd Dant Bl.6 ac iau (Unsain) (Ad), Dim mwy na 12 mewn nifer

Eira, Elenid Alun

Allwedd y Tannau 73 (2014), Cymdeithas Cerdd Dant Cymru

Cainc: Siwan, Mona Meirion (122)

Tant i’r Plant, Gwasg Gwynedd

 

83. Unawd Cerdd Dant Bl.7, 8 a 9

Lluniau’r Tymhorau, Eifion Lloyd Jones

Cliciwch yma am gopi gan Adran yr Eisteddfod, Glan-llyn

Cainc: Siliwen, Gwennant Pyrs (122)

Nudd Gwyn a Cheinciau Eraill, Cyhoeddiadau Curiad

 

84. Deuawd Cerdd Dant Bl.7, 8 a 9

Hen Luniau’r Teulu, John Gwilym Jones

Cliciwch yma am gopi gan Adran yr Eisteddfod, Glan-llyn

Cainc: Coetmor, Menai Williams (1122)

Ceinciau’r Dyffryn a Mwy, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru

 

85. Unawd Cerdd Dant Bl.10 a dan 19 oed

Y Gymru Newydd, Robin Llwyd ab Owain

Poeth! Cerddi Poeth ac Oer, Y Lolfa

Cainc: Mared, Gwennant Pyrs (122)

Nudd Gwyn a Cheinciau Eraill, Cyhoeddiadau Curiad

Dylid cyplysu P1 a 2, P3 a 4, P5 a 6 a hepgor y pennill olaf.

 

86. Deuawd Cerdd Dant Bl.10 a dan 19 oed

Fesul Gair, Aneirin Karadog

Bylchau, Barddas

Cainc: Maen y Wern, Owain Siôn (1122)

Ceinciau Penyberth, Urdd Gobaith Cymru

 

87. Grŵp Cerdd Dant Bl.10 a dan 19 oed, 3–8 mewn nifer

Rhaid Peidio Dawnsio yng Nghaerdydd, Emyr Lewis

Cerddi Caerdydd, Gwasg Gomer

Cainc: Rhandir, Mair Carrington Roberts (122)

Ceinciau’r Ffin, Cyhoeddiadau Curiad

Caniateir dyblu lleisiau.

Trillais neu fwy.

 

88. Grŵp Cerdd Dant 19-25 oed, 3–8 mewn nifer

Pe Bawn i yn Artist, T. Rowland Hughes

Cerddi’r Cof, Gwasg y Dref Wen

Cainc: Penrhyn Llŷn, Gwenan Gibbard (123)

Allwedd y Tannau rhif 70 (2011) a 77 (2018), Cymdeithas Cerdd Dant Cymru

Caniateir dyblu lleisiau.

Trillais neu fwy.

 

89 Unawd Cerdd Dant 19-25 oed

Y Ferch Wrth y Bar yng Nghlwb Ifor, Rhys Iorwerth

Un Stribedyn Bach, Gwasg Carreg Gwalch

Cainc: Traeth Lafan, Gareth Mitford Williams (112)

Ceinciau’r Allwedd - Y Gyfrol Gyntaf, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru

Dylid cyplysu P1 a 2, P3 a 4, P5 a 6.

 

90. Deuawd Cerdd Dant 19-25 oed

Chwilio, Haf Llewelyn

Llond Drôr o Ddinosoriaid, Barddas

Cainc: Llanerchfyda, Gwenan Roberts (122)

Tonnau’r Tannau, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru

Dylid cyplysu P1 a 2, P3 a 4, a P5 a 6.

 

91. Parti Cerdd Dant Bl.7, 8 a 9, Dim mwy na 20 mewn nifer

Y Sbectol Hud, Mererid Hopwood

Cliciwich yma am gopi gan Adran yr Eisteddfod, Glan-llyn

Cainc: Maesgwyn, Mona Meirion (1122)

Dyffryn Conwy a Cheinciau Eraill, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru

 

92. Parti Cerdd Dant Bl.9 ac iau (Ad), Dim mwy na 20 mewn nifer

Detholiad Penodol o Cymru 30–3 Lloegr, Myrddin ap Dafydd

Cliciwch yma am gopi gan Adran yr Eisteddfod, Glan-llyn

Cainc: Sosban Fach, Mair Selway (1212)

Ceinciau 99, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru

 

93. Côr Cerdd Dant Bl.13 ac iau, Dim mwy na 30 mewn nifer

Beth Wna’r Heniaith, Aled Lloyd Davies

Cliciwch yma i gael copi gan Adran yr Eisteddfod, Glan-llyn

Cainc: Erwenni, Einir Wyn Jones (112)

Ceinciau Penyberth, Urdd Gobaith Cymru

 

94. Parti Cerdd Dant 14-25 oed (Ae), Dim mwy na 20 mewn nifer

Oni Ddown I’r Waun Ddyfal, Emyr Lewis

Cerddi Caerdydd, Gwasg Gomer

Cainc: Trefynach, Owain Siôn (122)

Ceinciau Llwyndyrus, Cyhoeddiadau Sain