73. Band / Artist Unigol Bl.6 ac iau
a) Cân wreiddiol (geiriau a cherddoriaeth) yn y dull cyfoes sydd heb ei chyhoeddi na’i pherfformio’n gyhoeddus. Unrhyw arddull e.e. Pop, Roc, Jazz, Hip hop, Dawns, Acwstig, neu Blues.
neu
b) Trefniant o gân gyfoes Gymraeg. Cyfrifoldeb y grŵp yw sicrhau’r hawlfraint.
74. Band / Artist Unigol Bl.7–13
a) Cân wreiddiol (geiriau a cherddoriaeth) yn y dull cyfoes sydd heb ei chyhoeddi na’i pherfformio’n gyhoeddus. Unrhyw arddull e.e. Pop, Roc, Jazz, Hip hop, Dawns, Acwstig, neu Blues.
neu
b) Trefniant o gân gyfoes Gymraeg. Cyfrifoldeb y grŵp yw sicrhau’r hawlfraint.
Rheolau cystadlu
1. Rhaid llenwi ffurflenni cystadlu erbyn 1 Mawrth 2019. Nid yw’r cystadlaethau hyn yn rhan o’r Eisteddfodau Cylch na Rhanbarth. Rhaid i bob cystadleuydd, yn cynnwys y cyfeilyddion, fod o fewn oedran y gystadleuaeth.
2. Pan fydd cwmni, grŵp neu barti yn defnyddio cerddoriaeth a recordiwyd ymlaen llaw neu yn chwarae’n fyw unrhyw gerddoriaeth a gyhoeddwyd yn fasnachol, cyfrifoldeb y cyfryw gwmni, grŵp neu barti yw sicrhau hawlfraint.
3. Disgwylir i bob cystadleuydd anfon copi o’r gân ar unrhyw fformat (e.e CD, MP3, linc i wefan ayb) y bwriedir ei berfformio i Adran yr Eisteddfod, Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, Llanuwchllyn,Y Bala, Gwynedd erbyn 1 Mawrth 2019. Bydd y beirniaid yn dewis pump i ymddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mhob cystadleuaeth.
4. Ni chaniateir defnyddio traciau cefndir. Bydd yr Urdd yn darparu amps a set o ddrymiau. Ni chaniateir defnyddio drymiau eich hunain.