Rheolau a chanllawiau
1. Rhaid cofrestru timau Siarad Cyhoeddus erbyn 1 Mawrth 2019.
2. Bydd Adran yr Eisteddfod yn trefnu taith y beirniad yn ôl dyddiadau sy’n gyfleus i’r beirniad a’r cystadleuwyr. Yr egwyddor gyffredinol fydd anfon y beirniaid i ganolfannau lle y gall weld a chlywed amryw o dimau ar un noson mewn prawf rhanbarthol, yn hytrach na’u hanfon yn unswydd i weld pob tîm yn ei ganolfan ei hun.
3. Trefnir cystadlaethau Rhanbarthol yn ystod Mawrth ac ni ellir newid y dyddiadau.
4. Rhaid i bob aelod o bob tîm fod yn aelod cofrestredig o’r Urdd am 2018/19
5. Wedi traddodi beirniadaeth lafar i bob tîm ar ôl ei berfformiad yn y prawf rhanbarthol, ni pharatoir beirniadaeth ysgrifenedig wedyn, ond anfonir bras nodiadau at y timau a ddewisir i’r profion terfynol.
6. Rhaid i’r timau a ddewisir i’r profion terfynol gystadlu ar y dyddiad ac yn y drefn a benderfynir gan Drefnydd yr Eisteddfod.
7. Sylwer mai tîm Ysgol a thîm Aelwyd sydd i gystadlu. Yr Ysgol/Aelwyd yw’r uned, ac ni chaniateir benthyca perfformwyr o Ysgolion/Aelwydydd eraill. Nifer mewn tîm fydd 4 aelod.
8. Wedi gweld yr holl dimau fe gaiff y beirniad ddewis y timau gorau o blith timau Ysgolion Uwchradd, a’r gorau o blith timau Aelwydydd, sydd i ymddangos yn y profion terfynol i’r ddwy gystadleuaeth a gynhelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Hysbysir pob tîm, llwyddiannus ac aflwyddiannus, tua canol Ebrill.