Theatr

Dyddiad Cau: Dyddiad cau eich Rhanbarth
Cofiwch fod rhaid ymaelodi gyda'r Urdd cyn cystadlu!

145. Ymgom Bl.6 ac iau, 2–4 mewn nifer

Detholiad penodol o ‘Ffrindiau’, Gareth F Williams

neu

Ddetholiad dewisol o’r nofel

Copi o’r detholiad penodol ar gael o Adran yr Eisteddfod, Glan-llyn

Dim hwy na 5 munud gan gynnwys amser i osod a chlirio llwyfan

 

146. Cyflwyniad Dramatig Bl.6 ac iau

Bai ar Gam

Dim hwy na 10 munud gan gynnwys amser i osod a chlirio llwyfan

 

147. Cân Actol Bl.6 ac iau (YC/Ad)

Ysgolion â hyd at 100 o blant rhwng 4–11 oed

Dathlu

Dim hwy na 10 munud gan gynnwys amser i osod a chlirio llwyfan

 

148. Cân Actol Bl.6 ac iau (YC)

Ysgolion â thros 100 o blant rhwng 4–11 oed

Darganfod

Dim hwy na 10 munud gan gynnwys amser i osod a chlirio llwyfan

 

149. Ymgom Bl.7, 8 a 9, 2–4 mewn nifer

Detholiad penodol o ‘Y Gwylliaid’, Bethan Gwanas

neu

Ddetholiad dewisol o’r nofel

Copi o’r detholiad penodol ar gael o Adran yr Eisteddfod, Glan-llyn

Dim hwy na 5 munud gan gynnwys amser i osod a chlirio llwyfan

 

150. Cyflwyniad Dramatig Bl.7, 8 a 9, Hyd at 30 mewn nifer

Cyflwyniad yn seiliedig ar y thema ‘Ysbeidiau Heulog’

Dim hwy na 10 munud gan gynnwys amser i osod a chlirio llwyfan

 

151. Ymgom Bl.10 a dan 19 oed, 2–4 mewn nifer

Hunan ddewisiad

Dim hwy na 5 munud gan gynnwys amser i osod a chlirio llwyfan

 

152. Cyflwyniad Dramatig Bl.10 a dan 19 oed, Hyd at 30 mewn nifer

Cyflwyniad yn seiliedig ar y thema ‘Tacsi i’r Tywyllwch

Dim hwy na 10 munud gan gynnwys amser i osod a chlirio llwyfan

 

153. Cân Actol Bl.7, 8 a 9, 8–30 mewn nifer

Mae rhywbeth bach yn poeni pawb o hyd

Dim hwy na 10 munud gan gynnwys amser i osod a chlirio llwyfan

Caniateir band byw neu gyfeiliant wedi ei recordio

 

154. Detholiad o Ddrama Gerdd Bl.7 a dan 25 oed, Dim llai na 10 mewn nifer

Hunan-ddewisiad

Dim hwy na 15 munud gan gynnwys amser i osod a chlirio llwyfan

Nid oes rhaid cyfleu stori yn gyflawn. Caniateir band byw neu gyfeiliant wedi ei

recordio. Cyfrifoldeb y cwmni / grŵp yw sicrhau hawlfraint.

 

155. Stand Yp 14–25 oed

Cyflwyniad o waith comedi gwreiddiol

Dim hwy na 4 munud

 

156. Monolog Bl.10 a dan 19 oed

Cyflwyno monolog

Dim hwy na 4 munud

 

157. Cyflwyniad Dramatig Unigol 19-25 oed

Cyflwyno 2 fonolog cyferbyniol

Dim hwy na 8 munud

 

158. Unawd allan o Sioe Gerdd Bl.10 a dan 19 oed

Hunan-ddewisiad

Dim hwy na 5 munud

Rhaid i bob cystadleuydd ddarparu ei gyfeiliant ei hun (gall hyn gynnwys trac

cefndirol ond ni ddylid cynnwys unrhyw leisiau cefndir).

 

159. Unawd allan o Sioe Gerdd 19-25 oed

Hunan-ddewisiad

Dim hwy na 5 munud

Rhaid i bob cystadleuydd ddarparu ei gyfeiliant ei hun (gall hyn gynnwys trac

cefndirol ond ni ddylid cynnwys unrhyw leisiau cefndir).

 

160. Deuawd / Ensemble Sioe Gerdd Bl.10 a dan 25 oed, 2–6 mewn nifer

Cân neu olygfa allan o Sioe Gerdd

Dim hwy na 5 munud

 

161. Ymgom Bl.6 ac iau (D), 2–4 mewn nifer

Sgript osod gan Lisa Jane Davies a Mari Tudor

Copi ar gael o Adran yr Eisteddfod, Glan-llyn

 

162. Cân Actol Bl.6 ac iau (D), 8–30 mewn nifer

Cân actol yn seiliedig ar y thema ‘Mae’r Olwyn yn Troi

Dim hwy na 5 munud

 

163. Ymgom Bl.7, 8 a 9 (D), 2–4 mewn nifer

Sgript osod gan Gwynedd H. Jones

Copi ar gael o Adran yr Eisteddfod, Glan-llyn