Trefn y gystadleuaeth
1. Rhaid cofrestru i gystadlu ar-lein yn unol â dyddiad cau eich rhanbarth chi. Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu lleol i gadarnhau’r dyddiad yma.
2. Trefnir rownd Ranbarthol cyn diwedd mis Ebrill 2019 pebai angen.
3. Cynhelir rownd derfynol ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn ar Faes Eisteddfod yr Urdd.
Rheolau Cystadlu
1. Darperir un soced drydanol yn unig ar gyfer bob cystadleuydd ymhob rownd.
2. Bydd bwrdd a chadair wedi’i neilltuo ar gyfer pob cystadleuydd ymhob rownd.
3. Lefel 1 / Mynediad, 2 a 3 = hyd at 120 munud i gwblhau’r dasg.
Trin Gwallt
Lefel Mynediad, 1, 2 a 3
Creu delwedd gyflawn yn seiliedig ar y thema. Bydd gan bob cystadleuydd 120 munud i gwblhau’r dasg sydd yn cynnwys 15 munud i ymgyfarwyddo â’r gofod cystadlu. Caiff y gwaith coluro, gwisg ac ategolion ei gwblhau o flaen llaw gan y cystadleuydd yn unig. Rhwydd hynt i’r cystadleuydd ddewis ei g/chyfarpar a’i g/
chynnyrch ei hun ar gyfer y dasg. Caniateir i’r cystadleuydd baratoi hyd at 30% o’r gwallt / ategolion gwallt o flaen llaw.
Harddwch
Lefel Mynediad, 1, 2 a 3
Celf ewinedd a cholur yn seiliedig ar y thema. Caniateir 120 munud i gwblhau’r dasg sy’n cynnwys gosod a chlirio. Bydd angen canolbwyntio ar y golwg terfynol ond bydd y beirniaid yn ystyried y gwallt a’r wisg yn ogystal. Caniateir i baratoi’r wisg a’r gwallt o flaen llaw yn unig.
Lefel 1 / Mynediad
164. Trin Gwallt Bl.10 a dan 25 oed
165. Harddwch Bl.10 a dan 25 oed
Lefel 2
166. Trin Gwallt Bl.10 a dan 25 oed
167. Harddwch Bl.10 a dan 25 oed
Lefel 3
168. Trin Gwallt Bl.10 a dan 25 oed
169. Harddwch Bl.10 a dan 25 oed