Dug Caeredin Aur

Dewch i ymuno â ni ar Alldaith Agored yn 2026.

Cwestiwn? Cysylltwch â ni i gael fwy o wybodaeth

Gogledd Cymru - Eryri

Ymunwch â ni ar becyn Alldeithiau Aur Agored yng Nghogledd Cymru eleni!

Gwnewch y gorau o'ch gwyliau Pasg a Haf gyda alldaith bythgofiadwy yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri

Mae ein pecyn Aur Agored yn dechrau o £425 y pen, sy'n cynnwys ffioedd gwersylla, llogi offer*, a chludiant yn ystod yr alldeithiau. Os ydych eisioes wedi cwblhau eich alldaith ymarfer, gallwch archebu lle ar ein alldaith Asesiad ym mis Awst am ddim ond £230. 

Bydd angen i chi ddod â'ch offer personol a bwyd eich hun, ond bydd offer arbenigol gennym ni.

*Offer sydd ar gael yn cynnwys: pabell, sach gefn, mat cysgu, stôf coginio, map a chwmpawd

Edrychwch ar y dyddiadau isod a sicrhewch eich lle heddiw!

 

 

Ydych chi wedi cofrestru am Y Wobr Dug Caeredin ond yn ansicr sut neu ble i wneud eich alldeithiau? Ymunwch â ni ar Alldaith Agored efo bobl ifanc eraill i gwblhau eich alldeithiau Dug Caeredin yng nghanol mynyddoedd Cymru!

 

Cofrestru yma!

 

De Cymru - Bannau Brycheiniog

Ymunwch â'n alldeithiau Aur Agored yn y De eleni!

Profwch antur bythgofiadwy wrth gwblhau eich alldeithiau yng nghanol harddwch y Bannau Brycheiniog. Dros gyfnod o ddwy alldaith, byddwch yn teithio ar draw tirweddau syfrdanol y pac cenedlaethol, gan fwynhau golygfeydd panoramig a darganofd bywyd gwyllt anhygoel Cymru. 

Cyn eich alldaith ymarfer, byddwch yn cymryd rhan mewn diwrnod hyfforddiant - cyfle gwych i feithrin sgiliau, cwrdd â chyfranogwyr eraill a chysylltu â'n staff profiadol o'r Urdd, a fydd yn cefnogi bob cam o'r daith.

Pris pecyn llawn yn dechrau o £425 y pen, sy'n cynnwys offer i logi*, ffioedd gwersylla a chludiant yn ystod yr alldeithiau. Bydd angen i chi ddarparu cit personol eich hun â'ch bwyd am yr alldaith i gyd. 

*Offer sydd ar gael yn cynnwys: pabell, sach gefn, mat cysgu, stôf coginio, map a chwmpawd

Edrychwch ar y dyddiadau isod a sicrhewch eich lle heddiw!

Beth sydd angen i chi wneud i gwblhau Alldaith gyda'r Urdd

I gwblhau alldaith llwyddiannus gyda ni, mae nifer o bethau y bydd angen i chi wneud:

1. Cofrestru ar-lein a thalu blaendal

Sicrhewch eich lle drwy gofrestru ar-lein a thalu blaendal, gyda'r gweddill i'w dalu cyn y daith gyntaf

2. Rhaid i chi gymryd rhan ym mhob dyddiad

Mae hyn i sicrhau eich bod yn derbyn yr hyfforddiant cywir cyn cymryd rhan yn yr asesiad. Byddwn yn rhannu gwybodaeth bwysig ac mae'n cyfle i chi ddod i adnabod pawb. 

3. Bydd angen i ni gwblhau sesiwn cerdyn llwybr ar gyfer pob taith

Byddwn yn trafod y llwybrau ar gyfer y teithiau yn ystod y diwrnod hyfforddiant, neu cyn yr alldaith. Disgwyliwn i set o gardiau cerdded (un y dydd) i gael eu chwblhau ar gyfer yr alldaith ymarfer ac asesiad. Mae'r rhain yn orfodol ac yn cyfri tuag at eich asesiad

4. Cwrdd â gofynion alldaith Gwobr Dug Caeredin

Mae'r gofynion hyn wedi'u osod gan y Wobr Dug Caeredin fel bod pob taith yn cael ei rhedeg i safon uchel. Mae'r gofynion yn cynnwys:

  • Cerdded fel grŵp o 4-7 aelod

  • Creu cynllun bwyd a cherdiau cerdded dyddiol i'r 2 alldaith

  • Cytuno ar amcan grŵp i'w gwblhau yn ystod yr alldeithiau 

  • Bod yn hunangynhaliol ar gyfer y daith gyfan (cerdded fydd eich dull cludiant)

  • Gwersylla dros nôs mewn pabell

5. Cadw i fyny gyda gwybodaeth drwy e-bost

Byddwn yn rhannu gwybodaeth bwysig gyda chi dros e-bost, felly cadwch lygad ar eich blwch derbyn

 

Gweler isod copi o Gofynion yr Alldaith 2026

 

Sicrhewch eich bod yn darllen y wybodaeth i gyd cyn cofrestru. Byddwch angen talu blaendal i gadw eich lle, a thalu'r gweddill erbyn yr alldaith ymarfer

 

Expedition Requirements 2026