
Alldeithiau Agored Arian - De Cymru
Cost ar gyfer pecyn llawn Arian yw £215pp. Mae'r gost yma'n cynnwys:
- Trafnidiaeth
- Llogi offer*
- Ffioedd gwersylla
- Hyfforddwyr ac aseswyr gymwys
- Hyfforddiant a goruchwyliaeth dydd a nos
*Offer ar gael: Pabell, sach gefn, mat cysgu, stof coginio, map a chwmpawd

Cofrestrwch yma 2023
Rydym yn rhedeg Alldeithiau Agored Arian dros y flwyddyn, yn ystod y gwyliau ysgol. Byddwn yn teithio ardraws De Cymru i gwblhau diwrnod hyfforddiant, alldaith ymarfer ac alldaith asesiad.
Darllenwch y wybodaeth isod a gofrestrwch i gadw le!
Nodwch - bydd angen eich rhif edofe i lenwi’r ffurflen ar-lein
Plîs sicrhewch eich bod chi'n llenwi a thicio pob bocs ar y ffurflen, yn ogystal â mewnbynnu eich manylion cerdyn, cyn gwasgu 'submit'.
Barod i gofrestru? Cliciwch y botwm gwyrdd uchod i dalu blaendal am le ar ein diwrnodau hyfforddiant ac alldaith Efydd. Gwiriwch y dyddiadau cyn bwcio - mae'n bwysig eich bod chi'n cyflawni pob dyddiad er mwyn llwyddo.
Ar ôl cofrestru, byddaf mewn cyswllt i rannu mwy o wybodaeth am y diwrnodau hyfforddiant ac alldaith. Bydd hwn yn cynnwys llyfr gwybodaeth Dug Caeredin Efydd, efo gwybodaeth lleoliadau, amseroedd ac offer ar gyfer yr alldaith.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, plîs cysylltwch trwy'r gwefan neu ar e-bost ar emmarichards@urdd.org a byddaf yn hapus i'ch helpu.
I gwblhau'r 2 alldaith, mae nifer o bethau bydd angen i chi gyflawni:
Rhaid cymryd rhan yn y diwrnod hyfforddiant, dim ots faint chi'n gwybod yn barod - prif bwrpas y dydd yw dod i'ch adnabod a rhannu gwybodaeth bwysig.
Dilyn y 20 amod sydd wedi'i setio gan y Wobr Dug Caeredin, sy'n cynnwys:
- Cerdded fel grŵp o 4-7 aelod
- Fel grŵp, ysgrifennu cynllun bwyd a cherdyn cerdded i bob diwrnod am y 2 alldaith!
- Fel grŵp, cyflawni nod penodol dros y 2 alldaith
- Hunangynhaliol am yr holl amser, a cherdded yw eich ffordd o deithio!
- Gwersylla dros nos