Dewch am Antur Fach efo ni! Mi fedrwn ddylunio Antur i'ch dosbarth sydd o fewn tafliad carreg i'r ysgol!
Dysgu tu allan i'r dosbarth
Gyda chyfyngiadau ar ymweliadau addysgol ar hyn o bryd, mae Gwasanaeth Awyr Agored Glan-llyn yn cynnig darpariaeth ar dir yr ysgol neu’n gyfagos. Mae’r sesiynau wedi’u selio ar y thema “Dysgu Tu Allan i’r Dosbarth”. Byddem yn trafod anghenion eich ysgol, gan wneud defnydd o’r lleoliadau agored sydd ar gael i’ch ysgol chi.
Mae’r sesiynau wedi’u selio ar y themâu canlynol:
Cyfathrebu Gwaith Tîm Iechyd a Lles Byw yn y gwyllt
Rhifedd a Llythrennedd Cyfeiriannu Bowldro Datrys Problemau
Gall ein hyfforddwyr weithio gyda grwpiau o 30, ac uchafswm o 60 ar y tro. Mae enghreifftiau isod o brisiau a’r math o amserlen sydd ar gael i’ch ysgol:
Enghraifft 1 – hyd at 30 ar y tro - £200 9:30-10:45 – Dosbarth 1 11:00-12:15 – Dosbarth 2 12:45-14:00 – Dosbarth 3 14:15-15:30 – Dosbarth 4
|
Enghraifft 3 – hyd at 60 ar y tro - £400 9:30-10:45 – Dosbarth 1+2 11:00-12:15 – Dosbarth 3+4 12:45-14:00 – Dosbarth 5+6 14:15-15:30 – Dosbarth 7+8
|
Enghraifft 2 – 30 ar y tro - £200 9:30-12:15 – Dosbarth 1 12:45 – 15:30 – Dosbarth 2
|
Enghraifft 4 – hyd at 60 ar y tro - £400 9:30-12:15 – Dosbarth 1 + 2 12:45 – 15:30 – Dosbarth 3 + 4
|
*Mae’r gwasanaeth ar gael i bob oedran ysgol.
Pecyn Dysgu Tu Allan i’r Dosbarth
Rydym yn awyddus i ddatblygu perthynas a ysgolion a chynnig pecyn llawn o weithgareddau ‘Dysgu Tu Allan i’r Dosbarth’. Gall hyn fod yn sesiynau wythnosol, tymhorol neu flwyddyn ysgol lawn wedi ei ddylunio yn sbesiffig i anghenion eich ysgol chi. Bydd modd ychwanegu’r themâu isod drwy ddilyn y pecyn yma.
Cymraeg a Chymreictod Cerddoriaeth Cymorth Cyntaf Sylfaenol
Cysylltwch i drafod sut all yr Urdd a’ch ysgol gyd weithio i gynnig profiadau newydd i’ch disgyblion chi.