Dug Caeredin Efydd

Gallwn ddarparu hyfforddiant ac alldeithiau i'r Wobr Dug Caeredin Efydd, yn ogystal ag unrhyw hyfforddiant i athrawon neu staff.

Ydych chi wedi penderfynu cynnig Y Wobr Dug Caeredin yn eich ysgol neu sefydliad chi? Oes angen cymorth arnoch chi i redeg Y Wobr?

Fel Darparwr Gweithgaredd Anturus cydnabyddedig, gallwn gynnig mentora a chymorth yn ogystal â staff ac aseswyr cymwys a phrofiadol, i helpu'ch cyfranogwyr cyflawni'r uned alldeithio.

Cysylltwch efo ni i ddarganfod sut mae'r Gwasanaeth yn gallu helpu chi cynnig y cyfle anhygoel yma i bobl ifanc

Alldeithiau Agored Efydd - De Cymru

 

Cost ar gyfer pecyn llawn Efydd yn dechrau o £170pp, yn dibynnu ar y nifer o gyfranogwyr. Mae'r gost yma'n cynnwys:

  • Trafnidiaeth
  • Llogi offer*
  • Ffi gwersylla
  • Hyfforddwyr ac aseswyr gymwys
  • Hyfforddiant a goruchwyliaeth dydd a nos

 *Offer ar gael: Pabell, sach gefn, mat cysgu, stof coginio, map a chwmpawd

Cofrestrwch yma 2024

Nodwch - bydd angen eich rhif edofe i lenwi’r ffurflen ar-lein

Plîs sicrhewch eich bod chi'n llenwi a thicio pob bocs ar y ffurflen, yn ogystal â mewnbynnu eich manylion cerdyn, cyn gwasgu 'submit'.

Barod i gofrestru? Cliciwch y botwm gwyrdd uchod i dalu blaendal am le ar ein diwrnodau hyfforddiant ac alldaith Efydd. Gwiriwch y dyddiadau cyn bwcio - mae'n bwysig eich bod chi'n cyflawni pob dyddiad er mwyn llwyddo.

Ar ôl cofrestru, byddaf mewn cyswllt i rannu mwy o wybodaeth am y diwrnodau hyfforddiant ac alldaith. Bydd hwn yn cynnwys llyfr gwybodaeth Dug Caeredin Efydd, efo gwybodaeth lleoliadau, amseroedd ac offer ar gyfer yr alldaith.


Os oes gennych unrhyw gwestiwn, plîs cysylltwch trwy'r gwefan neu ar e-bost ar emmarichards@urdd.org a byddaf yn hapus i'ch helpu.

I gwblhau'r alldaith Efydd, mae nifer o bethau bydd angen i chi gyflawni:

Rhaid cymryd rhan yn y diwrnodau hyfforddiant, dim ots faint chi'n gwybod yn barod - prif bwrpas yw i ddod i'ch adnabod a rhannu gwybodaeth bwysig yn barod am yr alldaith.

Dilyn Gofynion yr Alldaith sydd wedi'i setio gan y Wobr Dug Caeredin, sy'n cynnwys:

- Cerdded fel grŵp o 4-7 aelod

- Fel grŵp, ysgrifennu cynllun bwyd a cherdyn cerdded i bob diwrnod am yr alldaith!

- Fel grŵp, cyflawni nod penodol dros yr alldaith

- Hunangynhaliol am yr holl amser, a cherdded yw eich ffordd o deithio!

- Gwersylla dros nos