Y Wobr

Gallwn ddarparu alldeithiau i bob lefel y Wobr Dug Caeredin, yn ogystal ag unrhyw hyfforddiant i athrawon neu staff. Cliciwch ar y lefel penodol i gael mwy o wybodaeth

Beth yw'r Wobr Dug Caeredin?

Cyfle i ddatblygu sgiliau, helpu'r gymuned a gwella ffitrwydd, mae'r Wobr yn rhaglen sydd ar gael i bobl ifanc 14-25 mlwydd oed ardraws y byd. Efo 4 uned i gyflawni ym mhob lefel, yn ogystal ag un ychwanegol i gyflawni'r wobr Aur, gall berson ifanc treulio rhwng 3 mis a 18 mis yn gweithio trwy unedau gwirfoddoli, sgil, corfforol ac alldaith. Syniadau megis  gwirfoddoli yn eu siop elusen leol, dysgu i chwarae offeryn neu ymuno a thîm chwaraeon newydd. Am y Wobr Aur mae angen cyflawni preswyl o 5 diwrnod, 4 noson ar ben y 4 uned uchod.

Ewch i wefan Dug Caeredin i gael mwy o wybodaeth

Sut all y Gwasanaeth helpu chi efo'r Wobr?

Fel darparwr gweithgareddau anturus, gallwn helpu mewn nifer o ffyrdd efo'ch alldeithiau.

Sefydliad Trwyddedig (e.e. ysgolion, colegau, canolfannau ieuenctid)
Gallwn gynnig pecyn i'ch grŵp o gyfranogwyr sy'n cynnwys hyfforddiant, offer ac alldeithiau.
Oes gennych brinder staff ar gyfer eich alldeithiau? Gallwn helpu staffio eich alldeithiau os ydych fel arfer yn rhedeg eich alldeithiau 'in house'. O staffio yn unig i helpu efo trafnidiaeth neu offer, cysylltwch efo ni i drafod sut allwn ni helpu chi!

Cyfranogwr
Ydych chi wedi cofrestru efo'ch ysgol neu goleg ac yn ansicr o ble neu sut i gyflawni eich uned alldeithiau? Rydym yn rhedeg Alldeithiau Agored i bob lefel yn ystod gwyliau ysgol. Mae'r alldeithiau yma ar agor i gyfranogwyr o unrhyw le yng Nghymru, felly cyfle gwych i gyflawni'r uned a gwneud ffrindiau newydd! I gael mwy o wybodaeth am ein halldeithiau agored, plîs cliciwch ar y lefel uchod.

Nol